Bwrdd i wella a datblygu rygbi proffesiynol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru a'r pedwar rhanbarth rygbi yn sefydlu corff proffesiynol newydd i gryfhau a datblygu rygbi proffesiynol yng Nghymru.
Bydd y corff, Bwrdd y Gêm Rhanbarthol Broffesiynol, yn edrych ar y gamp oddi ar ac ar y cae.
Mae 'na sawl nod, fel sicrhau bod rhanbarthau Cymru ymhlith y gorau yn Ewrop o fewn pum mlynedd ac i ddatblygu chwaraewyr rhyngwladol.
Cafodd y bwrdd ei sefydlu ar ôl trafodaethau sylweddol ac adeiladol rhwng yr undeb a'r pedwar rhanbarth, Y Scarlets, Y Gweilch, Gleision Caerdydd a Dreigiau Casnewydd.
Mae'r bwrdd newydd yn cynnwys pedwar aelod o'r Undeb, pedwar aelod o'r rhanbarthau a chadeirydd annibynnol, sef y barnwr, Syr Wyn Williams, 61 oed o Gwm Rhondda.
Daeth hyn wedi adolygiad annibynnol i gyflwr y gamp yn rhanbarthol.
Cwmni cyfrifwyr PricewaterhouseCoopers luniodd yr adroddiad annibynnol ac mae'r bwrdd wedi ei sefydlu wedi trafodaethau ar gasgliadau'r adroddiad.
"Mae creu'r bwrdd newydd yn garreg filltir yn hanes rygbi Cymru," meddai Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis.
Cyrraedd y nod
"Bydd y bwrdd yn chwarae rhan allweddol i helpu rygbi rhanbarthol i greu gwir lwyddiant ar y cae ac oddi ar y cae yn y blynyddoedd nesaf."
Dywedodd bod yr adroddiad wedi cadarnhau mewn manylder bod rhaid newid ac felly bod angen gwaith caled i ddod i ganlyniad all weithio.
Ychwanegodd nad oedd yr adroddiad yn rhywbeth hawdd i'w ddarllen ond dywedodd ei fod yn ddiolchgar i'r rhanbarthau am eu dyfalbarhad i ddod at ei gilydd i gyrraedd y nod.
"Mae 'na lot o waith caled o'n blaen a bydd rhaid gwneud lot o benderfyniadau anodd, realistig er budd y gêm."
Dywedodd Mark Davies, Prif Weithredwr y Scarlets, ar ran y pedwar rhanbarth, bod angen sicrhau bod y gamp yn un iach a chynaliadwy er budd hir dymor y gamp ar bob lefel.
"Er mwyn cyrraedd y nod....rhaid gweithio gyda'n gilydd.
"Mae'r gwaith gafodd ei wneud dros y 12 mis diwethaf yn dangos nad oes 'na ateb hawdd ac mae 'na lot o waith caled o'n blaen."
Bydd pob rhanbarth yn cyflwyno cynllun busnes manwl pum mlynedd.
Fe fydd y bwrdd yn cyfarfod yn fisol.
Bydd Syr Wyn Williams yn oruchwylio gwaith y bwrdd gyda'r cyfarfod cyntaf i'w gynnal cyn y Nadolig.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2012