Newid system ariannu'r rhanbarthau rygbi?
- Cyhoeddwyd
Gallai rygbi proffesiynol yng Nghymru weld newidiadau pellach, gyda rhai rhanbarthau'n derbyn mwy o gyllid nag eraill.
Bydd adolygiad annibynnol, fydd yn cael ei gyhoeddi'r mis nesa', yn datgelu y gallai'r pedwar rhanbarth golli arian am beidio â denu digon o gefnogwyr.
Dywed Undeb Rygbi Cymru (URC) eu bod wedi'u hymrwymo i gynnal pedair ochr broffesiynol.
Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Week In Week Out BBC Cymru, mae prif weithredwr URC wedi dweud y gallai'r model ariannu newid.
Ar hyn o bryd mae'r pedwar rhanbarth yn derbyn £3.5m fel cyfran o'r cytundeb teledu a chyfraniad gan yr undeb.
Ond mae'r cyfrifon yn dangos eu bod i gyd wedi gwneud colledion, yn rhannol oherwydd nad ydyn nhw wedi llwyddo i ddenu digon o gefnogwyr i gemau.
'Ateb gorau'
Cyfaddefodd y prif weithredwr Roger Lewis y gallai'r modd mae'r rhanbarthau'n cael eu hariannu newid.
"Gallech chi gael pedwar model gwahanol, pedair perthynas wahanol gydag URC, ac mae hynny'n rhywbeth 'dwi wedi'i drafod yn anffurfiol gyda'r rhanbarthau dros y flwyddyn ddiwetha'," meddai.
Pan ofynnwyd iddo a fyddai hyn yn golygu y byddai tri rhanbarth yn derbyn cyllid tebyg, a'r pedwerydd yn cael llai, atebodd Mr Lewis: "Gallai'r amrywiaeth fod yn fwy na hynny. Gallai fod yn un a thri, dau a dau neu dri ac un.
"Mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r ateb gorau ar gyfer rygbi Cymru yn ei gyfanrwydd."
Mae Stuart Gallacher, prif weithredwr Rygbi Rhanbarthol Cymru, hefyd yn cydnabod bod angen newid.
"Mae'n rhaid i ni gyd sylweddoli a chyfadde' fod y ffordd yr oedd rhanbarthau a chlybiau'n cael eu gweinyddu yn y gorffennol ddim yn gynaliadwy erbyn hyn," meddai.
"Mae'n rhaid i ni edrych ar ffyrdd gwahanol o weinyddu'r gêm broffesiynol yng Nghymru."
Bydd rhaglen Week In Week Out yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 10:35pm nos Fawrth, Chwefror 7.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2011