Adroddiad yn cwestiynu a oes modd cynnal pedwar rhanbarth rygbi

  • Cyhoeddwyd
Pedwar o chwaraewyr rygbi o'r rhanbarthauFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn cwestiynu a oes modd parhau i gynnal pedwar rhanbarth

Mae adroddiad hir-ddisgwyliedig ar ranbarthau rygbi Cymru yn dweud y gallai rhai o'r pedwar fethu â pharhau oherwydd eu cyflwr ariannol.

Mae adroddiad y cyfrifwyr PriceWaterhouseCoopers hefyd yn feirniadol o "reolaeth wael" y rhanbarthau.

Fe wnaethon nhw asesu cyllid y pedwar rhanbarth hyd at fis Ebrill 2012 gan dynnu sylw at opsiynau ar gyfer y dyfodol.

Mae'n codi'r mater o ddychwelyd i'r system a fodolai cyn y rhanbarthau, ond yn ei wrthod.

Mae'n argymell mwy o gydweithio rhwng Undeb Rygbi Cymru a'r rhanbarthau wedi "ei orfodi" gan fwrdd rheoli newydd i sicrhau bod y llyfrau'n gywir.

"Dydi'r model presennol ddim yn gynaliadwy yn y tymor byr," meddai'r adroddiad sy'n cynnig saith opsiwn.

Mwy o gyllid

Y rhanbarthau ar y cyd gyda'r undeb wnaeth gomisiynu'r adroddiad ac mae copi wedi dod i law BBC Cymru.

"Mae perfformiad hanesyddol ariannol y clybiau.... yn dangos nad ydyn nhw'n gynaliadwy....yn eu ffurf bresennol....heb gyllid ychwanegol gan unigolion neu o ffynonellau eraill," meddai'r adroddiad.

Er gwaetha cynnydd mewn cyllid gan yr undeb, mae'r adroddiad yn dweud bod y gwahaniaeth ariannol ymhlith y rhanbarthau wedi codi o £2 miliwn yn 2008 i £5.2 miliwn yn 2011 er bod £5 miliwn o gynnydd mewn refeniw yn ystod y cyfnod hwnnw.

Roedd y gwahaniaeth wedi gostwng i £3.8 miliwn erbyn diwedd mis Ebrill 2012.

Dywed yr adroddiad y dylai'r rhanbarthau fod wedi cael eu rheoli "yn fwy proffesiynol ac yn fwy masnachol" a bod penderfyniadau gwael yn rhannol gyfrifol am y problemau ariannol.

Cafodd pum rhanbarth eu sefydlu'n wreiddiol yn 2003, a ostyngodd i bedwar y flwyddyn ganlynol wrth i'r Rhyfelwyr Celtaidd ddod i ben.

Mae'r Scarlets, Y Gweilch, Gleision Caerdydd a Dreigiau Gwent yn cystadlu yn Ewrop, pencampwriaeth y Pro12 fel y mae bellach a Chwpan LV.

Bwriad y newid o glwb i ranbarth oedd gwella safon y chware ac i osod y gêm yng Nghymru mewn sefyllfa ariannol gadarnach.

Is-gwmniau

Ers hynny, mae'r mwyafrif o chwaraewyr a oedd yn rhan o'r Gamp Lawn gyda Chymru yn 2005, 2008 ac eleni wedi dod o'r pedwar rhanbarth.

Mae'r adroddiad yn nodi petai'r undeb yn cymryd mwy o risg drwy gymryd mwy o gyfrifoldeb y "dylen nhw gael mwy o reolaeth".

"Ond gallai hyn arwain at drin y rhanbarthau fel is-gwmnïau, rhywbeth na fydd yn dderbyniol gan yr undeb," yn ôl yr adroddiad.

Dywed hefyd bod y wybodaeth ariannol oedd ar gael gan y rhanbarthau yn wael gyda rhai rhanbarthau "yn methu cyflwyno cynllun busnes cyfredol".

Ond mae'r adroddiad yn nodi eu bod yn dechrau wynebu'r anawsterau ac yn gwneud gwelliannau.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod y rhanbarthau yn derbyn na allen nhw gystadlu'n ariannol gyda rhai o glybiau mwya' Lloegr a Ffrainc ac yn canolbwyntio ar ddatblygu'r chwaraewyr ifanc.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol