Rhaglen am frwydr Ray Gravell â chlefyd siwgr

  • Cyhoeddwyd
Ray Gravell
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ray Gravell wybod ei fod yn dioddef o glefyd siwgr yn 2002

Pum mlynedd yn ôl, bu farw'r chwaraewr rygbi a'r darlledwr, Ray Gravell, oherwydd cymhlethdodau'n deillio o glefyd siwgr.

Wedi iddo gael gwybod ei fod yn dioddef o'r clefyd yn 2002, roedd wedi gorfod cael llawdriniaeth i dorri rhan o'i goes.

Am chwe mis wedyn bu criw teledu o BBC Cymru yn ei ffilmio o a'i deulu wrth iddo wella o'i lawdriniaeth a cheisio ymdopi â'i fywyd newydd heb ei goes a delio gyda'r clefyd.

Ychydig a wyddai pawb mai dyma fyddai chwe mis olaf ei fywyd.

Nawr, mae ei weddw, Mari Gravell, yn dymuno i'r rhaglen wnaeth BBC Cymru ar y pryd gael ei dangos er mwyn i bobl wybod pa mor ddifrifol yw'r clefyd.

Mae ystadegau yn nodi bod clefyd siwgr ar gynnydd yng Nghymru.

Cymhlethdodau

Yn ôl ffigyrau gan elusen Diabetes UK Cymru mae tua 160,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef o'r clefyd a thros 400,000 naill ai ddim yn gwybod eu bod yn dioddef neu â risg o ddatblygu'r cyflwr.

Mae 90% o'r bobl sydd wedi cael diagnosis o glefyd siwgr yng Nghymru yn dioddef o fath 2, sef y math oedd gan Ray Gravell.

Os nad yw'n cael ei ddarganfod a'i drin gall achosi pob math o gymhlethdodau - clefyd y galon, strôc, methiant yr arenau, dallineb, ulcers a, fel Ray, colli rhan o'r corff.

Y mae pedair gwaith yn fwy cyffredin na phob un math o ganser gyda'i gilydd ac mae'n achosi marwolaeth gynamserol 1,200 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd miloedd yn angladd Ray Gravell ym Mharc y Strade

Bu farw Ray o drawiad ar y galon yn 56 oed tra ar wyliau yn Sbaen ar Hydref 31 2007.

Fis yn ddiweddarach roedd 10,000 o alarwyr ym Mharc y Strade i gofio amdano mewn angladd cyhoeddus.

"Roedd hi'n sioc enfawr clywed am farwolaeth Ray," meddai Gwenan Pennant Jones, cynhyrchydd y rhaglen Grav: 'Sdim Cywilydd Mewn Llefain ar ran BBC Cymru.

"Yr oeddwn wedi dod i'w adnabod yn dda mewn cyfnod byr ac wedi dod yn ffrindiau dros y chwe mis a dreuliais gydag ef a'r teulu.

"Braint oedd cael gweld ei ddewrder a pha mor benderfynol yr oedd o o guro'r clefyd ac i barhau gyda phob elfen o'i fywyd."

'Sioc'

Mae'r rhaglen yn gyfle i gynulleidfa deledu rannu yn y daith emosiynol gyda Ray a'i deulu.

Penderfyniad Mrs Gravell a'r plant oedd mai nawr yw'r amser cywir i ddarlledu'r rhaglen.

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,

Grav yn herio amddiffyn De Affrica mewn gêm brawf ym Mhretoria

"Amser aethon ni i'r ganolfan i gael y goes artiffisial, gawson ni gymaint o sioc," meddai wrth egluro'r rheswm am ddarlledu'r rhaglen.

"Roedd cymaint o bobl yno yn derbyn yr un fath o driniaeth, a lot o bobl leol hefyd.

"Mae clefyd siwgr fel petai wedi cynyddu, ac yn taro lot o bobl canol oed.

"Wy'n meddwl bod pobl yn dechre' ystyried beth yw effaith y clefyd - mae mwy o gyhoeddusrwydd amdano'r dyddie' 'ma.

"Pan gafodd Ray y salwch doedden ni byth yn meddwl y bydde' fe'n arwain at golli'i goes. Mae'n rhaid codi ymwybyddiaeth.

"Dyna'r rheswm am ddarlledu'r rhaglen nawr. Dyna'r neges."

  • Grav: 'Sdim Cywilydd Mewn Llefain gan BBC Cymru ar S4C am 8.25pm ar Ionawr 1 2013.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol