Ymgyrch i daclo diabetes a strôc

  • Cyhoeddwyd
Robin McBrydeFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Robin McBryde yn gyfaill i Ray Gravell a fu farw oherwydd cymhlethdodau diabetes

Bydd pob fferyllfa gymunedol yn agor ei drysau i gynnal profion risg er mwyn rhagweld dwy o broblemau iechyd mwyaf y wlad - strôc a diabetes.

Mae elusennau diabetes a strôc wedi ymuno â fferyllwyr, darparwyr iechyd a Llywodraeth Cymru i lansio Un o bob Deg, sef ymgyrch gyda'r nod o ddod o hyd i'r deg y cant ohonom sy'n wynebu risg uwch o gael diabetes neu strôc.

Yn helpu i daclo'r cyflyrau hyn mae hyfforddwr rygbi cynorthwyol Cymru, Robin McBryde, a lansiodd yr ymgyrch drwy gael asesiad risg ei hun yn Fferyllfa Walter Lloyd a'i Fab yn Heol Awst, Caerfyrddin.

Mae Robin, 41, a enillodd 37 o gapiau dros Gymru fel bachwr cyn hyfforddi'r tîm cenedlaethol, yn cefnogi'r ymgyrch gan fod curo diabetes a strôc yn achosion sy'n agos iawn i'w galon.

'Cymhlethdodau'

Dywedodd: "Gwelais fy ffrind Ray Gravell yn colli ei fywyd oherwydd cymhlethdodau diabetes. Yn nes at adref, cafodd fy mam strôc ym mis Ebrill, ond mae hi wedi gwella'n wych diolch byth."

Caiff asesiadau risg eu cynnig am ddim ym mhob fferyllfa yn y wlad - cyfanswm o 714. Bydd ymgyrch Un o Bob Deg yn rhedeg am bythefnos o Medi 3.

Bob blwyddyn, mae 11,000 o bobl yn cael strôc yng Nghymru. Tra bod llawer yn gwella'n dda, gall strôc olygu anabledd a marwolaeth gynnar i eraill.

"Gellir atal llawer o strôcs. Unwaith y byddwch yn gwybod eich bod yn wynebu risg, mae digon o bethau y gallwch eu gwneud i leihau eich siawns o gael strôc, fel newid eich diet, rhoi'r gorau i ysmygu ac yfed llai," meddai Ana Palazon, cyfarwyddwr y Gymdeithas Strôc yng Nghymru.

'Gwerth chweil'

Dywedodd Dai Williams, cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: "Amcangyfrifir bod 350,000 o bobl yng Nghymru nad ydynt yn ymwybodol eu bod yn wynebu risg uchel o gael diabetes Math 2.

"Os gall yr ymgyrch hon ddod o hyd i gyfran fach ohonynt hyd yn oed bydd yn werth chweil oherwydd, fel strôc, mae cysylltiad agos rhwng diabetes a ffordd o fyw.

"Os ydych yn gwybod beth yw eich risg, gallwch gymryd camau i sicrhau dyfodol iachach".

Mae Diabetes UK Cymru, y Gymdeithas Strôc, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Fferylliaeth Gymunedol Cymru a'r saith bwrdd iechyd wedi dod ynghyd i lansio Un o bob Deg. Dyma'r tro cyntaf i ymgyrch fferyllol yng Nghymru ganolbwyntio ar ddiabetes a strôc.

Y llynedd, mewn ymgyrch fferyllol a ganolbwyntiodd ar ddiabetes yn unig, cafodd 17,500 o bobl eu hasesu. Roedd 8.4% yn wynebu risg uchel o ddatblygu'r cyflwr ac roedd 24% yn wynebu risg uwch.

Cynigir yr asesiadau risg mewn fferyllfeydd a dim ond ychydig funudau y byddant yn eu cymryd.

Yn dibynnu ar y canlyniadau, bydd pobl sy'n wynebu risg naill ai yn cael llythyrau yn eu hatgyfeirio at eu meddyg teulu neu'n cael eu cynghori i sôn am eu statws wrth eu meddyg teulu. Caiff pawb wybodaeth am sut i leihau eu risg o gael strôc a diabetes.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol