Elizabeth II: Y rhyfel yn gyfnod a ddiffiniodd y Dywysoges

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Elizabeth ar ymweliad â chanolfan hyfforddi yn SurreyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Dywysoges ar ymweliad â chanolfan hyfforddi yn Surrey ychydig fisoedd cyn diwedd y rhyfel

Fel nifer o bobl Prydain ar y pryd, roedd yr Ail Ryfel Byd yn gyfnod a ddiffiniodd ddyfodol y ddarpar Frenhines Elizabeth II.

Roedd hi'n 13 oed ar ddechrau'r rhyfel, ac yn ystod chwe blynedd y rhyfel dechreuodd ar ei rôl gyhoeddus fel etifedd y goron.

Roedd y Teulu Brenhinol - y Brenin a'r Frenhines a'u merched, Elizabeth a Margaret - yn symbolau grymus o'r gwerthoedd roedd Prydain yn brwydro drostynt yn erbyn Yr Almaen Adolf Hitler.

Yn ystod Hydref 1940, wrth i Brydain ddioddef y blitz, fe wnaeth Elizabeth ei darllediad cyntaf.

Fe gafodd hi ei disgrifio fel neges i blant oedd wedi cael eu gyrru i'r Unol Daleithiau er mwyn osgoi'r bomio, ond mewn gwirionedd roedd yn neges i elynion Prydain fod morâl ei phobl yn uchel.

'Llawn sirioldeb a dewrder'

"Rydym ni blant gartref yn llawn sirioldeb a dewrder," meddai.

"Rydym yn ceisio gwneud popeth y gallwn ni i helpu ein morwyr, milwyr ac awyrenwyr gwrol, ac rydym yn ceisio hefyd i ddal ein siâr o berygl a thristwch rhyfel."

Roedd y ffaith i Elizabeth a Margaret aros yn y wlad yn hwb i ysbryd nifer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Darlledodd Elizabeth a'i chwaer, Margaret i'r genedl yn ystod y rhyfel

Er bod yna ambell awgrym y dylai'r Teulu Brenhinol fynd i Ganada, doedd y Brenin a'r Frenhines ddim am fynd yno.

Ond cafodd y merched eu hanfon i Gastell Windsor. Fe ddywedon nhw: "Fe aethom ni am benwythnos ac aros am bum mlynedd."

Oddi yno roedden nhw'n gallu gweld y fflamau yn goleuo'r awyr uwchben Llundain.

Ar un achlysur fe laniodd bom yn agos at y castell.

"Aethom ni i gyd yn binc pan glywsom ni e," meddai'r Dywysoges Margaret wedi iddyn nhw eistedd mewn lloches.

Ymddangosiad cyhoeddus cyntaf

Ymunodd eu rhieni â'r chwiorydd bron bob nos ac ar benwythnosau, ac fe barhaodd eu haddysg gyda thiwtoriaid preifat.

I godi calon eu tad adeg y Nadolig roedd y ddwy'n gwisgo fyny ac yn perfformio pantomeim.

Yn 1942 fe wnaeth y Dywysoges Elizabeth ei hymddangosiad cyhoeddus cyntaf yng ngorymdaith Gwarchodlu'r Grenadwyr yr oedd hi'n gyrnol er anrhydedd arnynt.

Tarddodd y synnwyr o ddyletswydd a nodweddai ei theyrnasiad o'r blynyddoedd ffurfiannol hyn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Dywysoges ddysgu am foduron a sut i yrru lori gyda'r ATS

Yn 1944, gyda'r Brenin yn drist wedi Brwydr Arnhem, ysgrifennodd yr Elizabeth 18 oed a'r Margaret 14 oed eu panto eu hunain - Little Red Riding Boots - gyda chymorth eu mam.

Roedd tri o'r gwarchodwyr oedd ar ddyletswydd yn y castell yn cymryd rhan.

Roedd un ohonyn nhw, Bill Davies, yn cofio cael ei fesur a'i wisgo mewn tiwnig sgarlad a chrwyn eirth.

"Aeth y perfformiad yn wych ac roedd y teulu yn eu dyblau," meddai.

"Roedd yn foment stori dylwyth teg. Fe anghofion ni'r rhyfel am awr neu ddwy."

Diwedd y rhyfel

Yn ystod blwyddyn olaf y rhyfel fe ymunodd Elizabeth â'r Gwasanaeth Tiriogaethol Cynorthwyol, yr ATS.

Fe gafodd hi ei chofresru fel Ail Swyddog Elizabeth Windsor, gan dreulio tair wythnos gyda grŵp o bobl oedd wedi cael eu dewis yn ofalus i ddysgu am foduron a sut i yrru lori.

Hwn oedd y tro cyntaf mae'n debyg i aelod benywaidd o'r Teulu Brenhinol fod ar gwrs gyda "phobl arferol".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r Teulu Brenhinol yn cyfarch y dorf ar falconi Palas Buckingham i ddathlu diwrnod VE

Fisoedd yn ddiweddarach daeth diwedd y rhyfel.

Ar falconi Palas Buckingham bu'r Teulu Brenhinol yn cyfarch y dorf i ddathlu diwrnod VE.

Ymunodd y Prif Weinidog Winston Churchill â'r teulu ar y balconi cyn i'r ddwy dywysoges ymuno â'r torfeydd.

'Hapusrwydd a rhyddhad'

40 mlynedd yn ddiweddarach, fe wnaeth y Frenhines gofio'r digwyddiadau hynny.

"Rwy'n cofio llinellau o bobl ddieithr yn cydio ym mreichiau'i gilydd ac yn cerdded i lawr Whitehall," meddai.

"Pob un ohonom wedi ein sgubo ymlaen gan lanw o hapusrwydd a rhyddhad.

"Wedi i ni groesi Green Park, fe safon ni tu fas a gweiddi 'Ry'n ni eisiau'r Brenin'.

"Rwy'n credu mai hwn oedd un o nosweithiau mwyaf cofiadwy fy mywyd."