DVLA: Adleoli 450 o swyddi

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys y DVLA yn AbertaweFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y gwaith yn cael ei ganoli yn Abertawe pan fydd y swyddfeydd rhanbarthol yn cau

Fe fydd 450 o swyddi'n cael eu symud i bencadlys asiantaeth drwyddedu cerbydau'r DVLA yn Abertawe wrth i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â chynlluniau i gau 39 o swyddfeydd lleol.

Bydd y swyddfeydd yn cau rhwng Hydref a Rhagfyr 2013, gan effeithio ar 1,200 o swyddi.

A bydd y newidiadau yn golygu arbedion o £26 miliwn y flwyddyn.

Mae 'na dair swyddfa ranbarthol yng Nghymru a 76 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mangor, Caerdydd a swyddfa lai yn Abertawe.

Trafodaethau

Bydd y 30 staff yn y swyddfa lai yn Abertawe yn symud i'r pencadlys tra bydd trafodaethau gyda'r 34 o staff yn y swyddfa yng Nghaerdydd a'r 12 yn swyddfa Bangor "er mwyn ystyried opsiynau".

Dywedodd Aelod Seneddol Plaid Cymru, Hywel Williams, ei fod yn siomedig iawn am fod swyddfa Bangor yn cau.

Yn benodol, meddai, roedd yn poeni am effaith canoli ar wasnaethau, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg.

Y 39 swyddfa sy'n cau yw: Beverley, Birmingham, Bournemouth, Brighton, Bryste, Caerlywelydd, Chelmsford, Caer, Caerwysg, Ipswich, Leeds, Lincoln, Llundain Borehamwood, Llundain Sidcup, Llundain Wimbledon, Maidstone, Manceinion, Newcastle Upon Tyne, Northampton, Norwich, Nottingham, Rhydychen, Peterborough, Portsmouth, Preston, Sheffield, Yr Amwythig, Stockton, Theale, Truro, Caerwrangon, Bangor, Caerdydd, Abertawe, Aberdeen, Dundee, Glasgow, Caeredin, ac Inverness.

Mae cyfres o streiciau byrion undeb y PCS wedi eu cynnal dros y misoedd diwethaf yn erbyn y cynlluniau.

'Pob cymorth'

Roedd yr undeb wedi dweud y byddai cau'r swyddfeydd yn bygwth swyddi ond hefyd yn cael gwared â'r gwasanaeth wyneb yn wyneb ar gael i'r cyhoedd a'r diwydiant ceir.

"Gan fod lefel diweithdra yn uchel a'n cymunedau yn dioddef o ganlyniad i doriadau'r llywodraeth, dylai gweinidogion fod yn cynnig pob cymorth i economïau lleol sy'n erfyn am help," meddai llefarydd.

"Yn lle hynny maen nhw'n rhygnu 'mlaen gyda thoriadau diangen ac amhoblogaidd i wasanaethau hanfodol."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol