Ann Clwyd i gynghori ar ymateb i gwynion iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi penodi'r Aelod Seneddol Llafur, Ann Clwyd, yn ymgynghorydd ar y modd y mae'r Gwasanaeth Iechyd yn delio gyda chwynion yn Lloegr.
Roedd Ms Clwyd wedi beirniadu'r gofal a gafodd ei diweddar ŵr tra roedd o yn yr ysbyty'r llynedd.
Fe fydd hi'n cynghori'r Prif Weinidog ar gasgliadau'r ymchwiliad i fethiannau Ysbyty Stafford yn Lloegr.
Cafodd Aelod Seneddol Cwm Cynon ei phenodi ynghyd â phrif weithredwr Ymddiriedolaeth Iechyd De Tees, Tricia Hart.
Fe wnaeth Mr Cameron y cyhoeddiad am y penodiadau wedi sôn yn Nhŷ'r Cyffredin am yr ymchwiliad cyhoeddus i Ysbyty Stafford ble y bu farw cannoedd o gleifion yn sgil camdriniaeth ac esgeulustod.
Bydd adolygiad Ms Clwyd yn ystyried sut mae'r Gwasanaeth Iechyd yn delio â chwynion cleifion a'u teuluoedd.
'Dirmygus a difater'
"Rwy'n croesawu'r cyfle i chwarae rôl ymarferol i geisio dod o hyd i ateb i un peth ar restr hir o broblemau sy'n bodoli nawr o fewn gofal iechyd mewn cymaint o'n hysbytai," meddai.
"Rwy'n benderfynol y bydd canlyniad yr adolygiad yma'n arwain at system sy'n sicrhau fod unrhyw gwyn gan gleifion neu unrhyw un arall yn cael sylw ac ymateb."
Y llynedd, dywedodd Ms Clwyd ei bod wedi gweld staff yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn ymddwyn yn "ddirmygus ac yn ddifater" mewn perthynas â'i gŵr, Owen Roberts.
Roedd hi eisoes wedi holi Mr Cameron mewn sesiwn holi ynglŷn â sut y byddai'n ymateb i gwynion am nyrsys oedd yn methu â gofalu am a dangos trugaredd at gleifion.
Ers iddi gwyno, dywedodd Ms Clwyd ei bod wedi derbyn cannoedd o lythyrau gan bobl oedd wedi diodde' profiadau tebyg mewn ysbytai.
Cymru
Mae hefyd wedi cwrdd â sefydliadau gofal iechyd a grwpiau cleifion i drafod atebion posib.
Er mai i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr y bydd ei rôl yn berthnasol yn uniongyrchol, mae Ms Clwyd yn gobeithio y bydd modd cyflwyno rhai o'i hargymhellion yng Nghymru.
Cafodd penodiad Ms Clwyd ei groesawu gan y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, Stephen Crabb, a ddywedodd fod y pleidiau eraill yn ei pharchu.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n edrych ar adroddiad Francis yn fanwl i sicrhau na fyddai methiannau fel y rhai yn Stafford yn digwydd yng Nghymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2012