Nyrsys: AS am ddechrau ymgyrch

  • Cyhoeddwyd
Ann Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Ann Clwyd: '... mae 'na nyrsys da ond mae 'na rai gwael iawn ...'

Mae AS, feirniadodd y gofal gafodd ei diweddar ŵr yn yr ysbyty, yn dweud ei bod am ddechrau ymgyrch.

Roedd wedi dweud ei bod wedi gweld nyrsys yn ymddwyn yn "ddirmygus ac yn ddifater" yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Bu farw Owen Roberts o niwmonia ychydig o wythnosau'n ôl.

Pan ofynnodd Andrew Marr ar ei raglen foreol a fyddai'n dechrau ymgyrch er mwyn codi safonau ei hateb oedd: "Byddaf."

"Dwi wedi derbyn cannoedd o ebyst ac mae un thema wedi amlygu ei hun ... mae 'na nyrsys da ond mae 'na rai gwael iawn ..."

Ymhlith yr ebyst, meddai, roedd un yn dweud: "Dyw nyrsio bellach ddim yn alwedigaeth fawr ei gofal."

Dywedodd ei bod yn gobeithio cwrdd â mudiadau ymgyrchu fel bod modd mynd â'r mater ymhellach "oherwydd mae'r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn anhygoel".

Ar raglen Radio 4, World at One, roedd wedi dweud bod ei gŵr wedi dweud wrthi ei fod yn teimlo'n oer.

'O dan deimlad'

"Doedd ganddo ddim dillad drosto, ac roedd dwy gynfas anaddas arno ... roedd ei draed y tu allan ac roedd o'n oer iawn. Mi wnes i roi tywel drosto.

"Roedd o dan deimlad yn gwbl ymwybodol o'i sefyllfa ac er nad oedd o'n gallu siarad oherwydd masg ocsigen mi wnaeth o'n gwbl amlwg ei fod am ddod adra'.

"Oriau wedyn bu farw.

"Rwy'n teimlo go iawn iddo farw o oerfel oherwydd pobl nad oedd wedi dangos eu bod yn poeni."

Pan dderbyniodd Ruth Walker, un o gyfarwyddwr yr Ysbyty Athrofaol, gwyn dywedodd: "Hoffwn i gyfleu ein cydymdeimlad dwys â Ms Clwyd.

'Difrifol iawn'

"Rydym yn gwybod pa mor anodd yw hi i aelodau teulu godi pryderon am safon gofal tra hefyd yn ceisio dygymod â cholled.

"Rydym yn trin achosion o'r fath fel rhai difrifol iawn.

"Nid ydym yn goddef gofal annigonol ac mae'n bwysig ein bod yn ymchwilio i bob digwyddiad fel bod modd codi safonau."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod bod angen mwy o waith er mwyn sicrhau gofal o safon uchel ar gyfer pob claf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol