Nyrsys: 'Dim amser i roi cymorth'
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth undeb nyrsio yng Nghymru yn dweud nad oes gennyn nhw yr amser i roi cymorth i gleifion oherwydd pwysau gwaith.
Daw sylwadau Tina Donnelly, cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys, wedi i'r Aelod Seneddol, Ann Clwyd feirniadu'r gofal gafodd ei diweddar ŵr, Owen Roberts, yn yr ysbyty cyn iddo farw.
Ddydd Sul pan ofynnodd Andrew Marr ar ei raglen foreol a fyddai'n dechrau ymgyrch er mwyn codi safonau ateb yr aelod seneddol oedd: "Byddaf."
Roedd wedi dweud ei bod wedi gweld nyrsys yn ymddwyn yn "ddirmygus ac yn ddifater" yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
'Amser i ofalu'
Bu farw o niwmonia ychydig o wythnosau'n ôl.
Yn ôl Ms Donnelly mae'r RCN eisoes yn cynnal cynllun "Amser i Ofalu".
Dywedodd wrth Huw Edwards, cyflwynydd rhaglen BBC Cymru 'The Wales Report', ei bod yn gobeithio fod Ms Clwyd wedi codi ei phryderon â'r bwrdd iechydd lleol fel y bydd ymchwiliad yn gallu cael ei gynnal ynghylch beth ddigwyddodd pan oedd ei gŵr yn yr ysbyty.
"Dydyn ni ddim yn gallu gweithio fel nyrsys heb drugaredd na chymorth, dyna pam rydyn ni'n nyrsio," meddai.
Ychwanegodd ei bod wedi lansio ymgyrch "amser i ofalu' ddwy flynedd yn ôl oherwydd pryder nad oedd gan nyrsys ddigon o amser i roi cymorth i gleifion.
Dywedodd ei bod wedi lansio'r ymgyrch hwnnw am fod 'nifer enfawr' o aelodau'r RCN wedi dweud nad oedd gennyn nhw amser i ofalu am gleifion.
'O dan bwysau'
"Roedden nhw wedi eu hypsetio am nad oedd gennyn nhw'r amser i wneud y gwaith roedden nhw wedi ei hyfforddi i'w wneud," meddai Ms Donnelly.
"Rydyn ni wedi lansio'r ymgyrch ar gyfer y tymor hir ond mae'n flin gen i ddweud fy mod i'n bryderus ynglŷn â lefelau staffio mewn nifer o ysbytai Cymru ar adegau gwahanol."
Ychwanegodd fod lefelau staffio yn cael eu gosod pan mae graddfa feddiannaeth tua 85% ond bod graddfa feddiannaeth nifer o wardiau yn 100%.
"Mae hyn yn effeithio sut mae nyrsys yn gallu gwneud eu gwaith," meddai.
Dywedodd fod y broses o siarad â chleifion, eu harsylwi, a chael y wybodaeth ynghylch sut i'w hadsefydlu yn y gymuned yn cymryd amser.
Ychwanegodd: "Ond os ydych chi o dan bwysau drwy'r amser gallai hyn gyfleu nad oes gennych chi amser ar gyfer cleifion," meddai.
Yn ôl Ms Donnelly dylai cwynion ynghylch diffyg trugaredd cael eu hadrodd i reolwyr neu grwpiau proffesiynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2012