Iechyd: Aelod yn 'teimlo'n gry iawn'
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cyfadde' ei fod yn ystyried ei le ar y cyngor yn dilyn penderfyniad y CIC ddydd Iau.
Yn dilyn cyfarfod ddydd Mercher, dywedodd y CIC ddydd Iau na fydden nhw'n cyfeirio cynlluniau'r bwrdd iechyd i newid gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru i'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths.
Ar raglen y Post Cyntaf ar Radio Cymru fore Gwener, dywedodd y cynghorydd Eryl Jones Williams ei fod yn anghytuno gyda'r penderfyniad, gan ddweud mai nifer fach iawn o aelodau'r cyngor wnaeth y penderfyniad.
Ni fydd y CIC yn gwneud cyhoeddiad terfynol tan Fawrth 1, sef y dyddiad olaf iddyn nhw fedru cyfeirio materion at y Gweinidog.
Oherwydd penderfyniad y cyngor, mae'n edrych yn debyg y bydd nifer o ysbytai cymunedol ar draws y gogledd yn cau, ac y bydd gwasanaethau gofal dwys o fabanod newydd anedig yn symud o ogledd Cymru i Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.
'Clywed ar y BBC'
Dywedodd Mr Jones Williams, sydd hefyd yn aelod o Gyngor Gwynedd yn cynrychioli Dyffryn Ardudwy, ar y Post Cyntaf: "Dim ond 15 o aelodau bwrdd gweithredol y cyngor wnaeth y penderfyniad yma nid yr aelodau cyffredinol.
"Ni chafodd yr aelodau wybod, ac roedd yn sioc clywed y peth ar y BBC yn y prynhawn.
"O'n i'n credu bod y cyngor yn credu bod ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio ormod - wnes i erioed feddwl y bydden nhw'n ildio i'r Bwrdd Iechyd fel hyn.
"Rydym yna i gynrychioli'r cyhoedd, ac ymhob man yr ydw i wedi bod, mae'r cyhoedd yn gwrthwynebu'r cynlluniau yma.
"Dwi o 'ngho'!"
"O'n i'n siarad hefo aelod arall neithiwr ac roedd y ddau ohonon ni'n teimlo 'be ydi'r pwynt o fod yno?
"'Nawr fe fyddwn ni'n aros i weld beth maen nhw'n mynd i wneud - dwi'n deall bod yr ysbytai yn mynd i'r gyfraith a hefyd dwi'n meddwl eu bod nhw isho gweld y cynllun busnes o be' mae'r awdurdod iechyd yn bwriadu gwneud wrth fynd ymlaen.
"Arhosa i am 'chydig bach, ond dwi'n teimlo'n gryf iawn."
Pan ofynnwyd i Mr Jones Williams os oedd yn bwriadu ymddiswyddo dros y mater, dywedodd:
"Dydw i ddim y math o berson sy'n cerdded i ffwrdd o bethau fel hyn fel arfer, dwi'n cwffio.
"Ond yn y frwydr yma dwi'n meddwl ein bod ni wedi colli. Gawn ni weld am rhyw fis neu ddau i weld beth ddigwyddith."
"Rwy'n teimlo'n gryf iawn am y peth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd16 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013