Clod i ddegau o Gymry
- Cyhoeddwyd
Mae yna le amlwg i'r rhai lwyddodd yn y Gemau Olympaidd a'r Gemau Paralympaidd yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Ond mae'r rhestr hefyd yn cydnabod pobl sydd wedi cyfranu mewn sawl maes gwahanol.
Bellach mae David Brailsford, yr hyfforddwr 48 oed a fagwyd yn Neiniolen, Gwynedd, yn farchog ar ôl arwain tîm seiclo Prydain i wyth Medal Aur yn y Gemau Olympaidd yn Llundain i ychwanegu at yr wyth a enillwyd yn Beijing yn 2008.
Llwyddodd seiclwyr Paralympaidd Prydain i ennill 22 o fedalau yn Llundain 2012 hefyd.
"Dwi'n falch iawn iawn, ond y gwirionedd ydi fod y flwyddyn yma wedi bod yn waith tîm," meddai Syr David Brailsford sydd bellach yn byw yn sir Derby.
"Mae'n fraint enfawr a dwi'n hapus dros ben.
"Mae'r anrhydedd yma ar gyfer pawb yn y byd seiclo.
"Fe fydd unrhyw un sy'n fy adnabod i yn gwybod ein bod ni wedi cael y llwyddiant o ganlyniad i'r holl waith tîm, yr hyfforddwyr a'r seiclwyr.
"Dwi'n lwcus iawn yn cael yr anrhydedd ond y gwir ydi ei fod ar gyfer pawb yn y byd seiclo."
Mae'r bencampwraig taekwondo, Jade Jones, gafodd ei henwi fel Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2012 BBC Cymru yn gynharach ym mis Rhagfyr, yn derbyn yr MBE.
Gemau Paralympaidd
Ellie Simmonds, sy'n hyfforddi yn Abertawe, oedd y Prydeiniwr ieuengaf i dderbyn anrhydedd yr MBE yn 2009 ac mae hi'n derbyn yr OBE ar ôl ennill dwy Fedal Aur yn y Gemau Paralympaidd yn Llundain eleni.
Mae'r seiclwr Mark Colbourne o Dredegar hefyd yn derbyn yr MBE.
Ar ôl torri ei gefn mewn damwain paragleidio dair blynedd yn ôl daeth yn un o sêr y Gemau Paralympaidd.
Enillodd Fedal Aur a Medal Arian yn y Velodrome gan ychwanegu Medal Arian arall yn y ras ffordd.
"Mae hyn yn gorffen blwyddyn anhygoel ac yn wobr am yr holl waith caled," meddai.
"Roedd cael cynrychioli fy ngwlad yn arbennig iawn a dwi'n ddiolchgar iawn i bawb wnaeth fy helpu i gyrraedd y nod.
"Mae cael yr MBE yn anrhydedd arbennig a dwi mor ffodus o fod wedi gallu gwireddu fy mreuddwyd."
Yn derbyn yr MBE hefyd mae Aled Sion Davies o Ben-y-bont ar Ogwr enillodd Fedal Aur yn rownd derfynol taflu'r ddisgen yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf.
Enillodd Fedal Efydd yn y gemau hefyd am daflu'r pwysau.
Mae cyn droellwr tîm criced Morgannwg Robert Croft hefyd yn derbyn yr MBE.
Bu'n gapten y sir rhwng 2003 a 2006 a chwaraeodd 21 gêm brawf dros Loegr rhwng 1996 a 2001.
Yn 2010 roedd yn dathlu cael dros 1,000 o wicedi dros Forgannwg ond ym mis Medi eleni wedi 23 mlynedd fe ddaeth a'i yrfa gyda Morgannwg i ben.
"Ma'n anrhydedd arbennig i fi a'r teulu, i gofio dechrau gyda Morgannwg yn 1989 a dwi wedi cael amser arbennig o dda.
"Dwi wedi cael llawer o help gan bobl yng Nghymru a Lloegr.
"Ond fi wastad wedi dweud, pob amser dwi'n chwarae 'da Morgannwg 'ma fel mynd mas i chwarae i Gymru, a pan fi'n chwarae i Loegr 'ma fel chwarae i'r Llewod, fel hynny dwi'n ei gweld hi. "
Hedd Wyn
Un arall sy'n derbyn yr MBE yw cyn asgellwr Llanelli, Cymry a'r Llewod, JJ Williams am ei gyfraniad i rygbi ac elusennau.
Mae Gerald Williams, sy'n geidwad a thywysydd Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, yn derbyn yr MBE.
Roedd Yr Ysgwrn yn gartref i'w ewythr, y bardd Ellis Humphrey Evans - Hedd Wyn - a enillodd y Gadair yn Eisteddfod Penbedw ym 1917 am ei awdl 'Yr Arwr'.
Cafodd ei ladd ym Mrwydr Passchendale chwe wythnos cyn yr Eisteddfod.
Bu Mr Williams yn byw yn y tŷ gyda'i nain ar ôl i'w fam farw ac yntau ond yn bedair oed.
Wrth gael ei holi pam ei fod o'n credu fod o wedi cael ei anrhydeddu, dywedodd: "Am fyd mod wedi cadw'r drws ar agor i genedl y Cymry.
"Dwi erioed wedi troi neb i ffwrdd. Dwi erioed wedi bod ar fy ngwyliau.
"Dwi wedi cael fy ngwadd i fynd i'r Orsedd yn yr Eisteddfod dair gwaith ac wedi gorfod gwrthod.
"Oherwydd bod y tair wythnos, wythnos cyn y 'Steddfod, wythnos y 'Steddfod a'r wythnos wedyn - mae'n brysur iawn yma gyda phobl eisiau dod yma o'r Eisteddfod."
Mae Roger Williams, sydd wedi bod yn Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yn Etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed ers 2001 yn derbyn y CBE.
Byd meddygaeth
Ymysg y gwleidyddion eraill sy'n cael eu hanrhydeddu mae cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd, Rodney Berman ac arweinydd Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, Melfyn Nott, ill dau yn derbyn yr OBE.
Mae nifer o bobl ym myd meddygaeth hefyd wedi eu hanrhydeddu gan gynnwys cyn-Athro Meddyginiaeth Prifysgol Caerdydd, John Williams, sy'n derbyn yr OBE am ei waith ym meddygaeth arennau a Dr Mahdi Mabruk Jibrani o Lanfairpwll, Ynys Môn.
Mae'n derbyn yr MBE am ei waith gyda chleifion sy'n dioddef o glefydau'r arennau yn Ysbyty Gwynedd, Bangor.
Mae Christine Evans-Thomas o Hwlffordd, Sir Benfro wedi derbyn yr MBE am ei gwaith elusennol ar ôl i'w mab, Adam farw o lewcemia yn 2004.
Sefydlodd yr elusen Bucketful of Hope sydd bellach wedi codi dros £500,000.
Dywedodd fod yr anrhydedd "er cof" am ei mab.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2012