Agoriad swyddogol i ysgol Gymraeg newydd Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol Gymraeg ddiweddara cyngor Dinas Abertawe wedi ei hagor yn swyddogol.
Ar y dechrau bydd Ysgol Gymraeg y Cwm yn darparu ar gyfer 25 o ddisgyblion yn y dosbarthiadau meithrin a derbyn.
Bydd yn derbyn plant o ardaloedd Winch-Wen, Bôn-y-maen, Pentre-chwyth, St. Thomas a Phort Tennant.
Mae disgwyl i nifer y disgyblion gynyddu bob blwyddyn ac y bydd yn datblygu yn ysgol gynradd llawn maint.
Mae yna 11 o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn y sir erbyn hyn.
Dywedodd Will Evans aelod o Gabinet Abertawe gyda chyfrifoldeb am addysg fod y galw am addysg Gymraeg yn parhau i dyfu.
"Rydym yn ceisio cwrdd ag anghenion a gofynion rhieni a rhwystro plant rhag gorfod gadael eu cymunedau er mwyn mynychu ysgol cyfrwng Cymraeg."
'Edrych ymlaen'
Dywedodd Rhian James Collins, pennaeth yr ysgol, bod staff a disgyblion wedi ymgartrefu yno a bod 'na falchder yn nyfodol yr ysgol.
"Rydym yn edrych ymlaen at y dyfodol.
"Mae 'na botensial enfawr am dwf a datblygiad yma.
"Rydym yn edrych ymlaen at sefydlu'r ysgol o fewn y gymuned leol a darparu amgylchedd hapus a gofalus i'r holl ddisgyblion."
Fe wnaeth Jaci Gruffudd, Cadeirydd Llywodraethwyr, ganmol staff y cyngor sir, y gymuned, a staff yr ysgol i wireddu'r prosiect.
"Mae hi wedi bod yn amser cyffrous iawn.
"Mae'r gwaith paratoi sydd ei angen i agor Ysgol Gymraeg y Cwm wedi bod yn bartneriaeth go iawn rhwng pawb."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2012
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2012