Yr Alban 18-28 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dyma drydedd buddugoliaeth Cymru yn y bencampwriaeth

Mae Cymru wedi maeddu'r Alban o 28-18.

Hon oedd pumed fuddugoliaeth Cymru oddi cartre', y tro cynta' erioed.

Yn y 10 mlynedd ddiwetha' dim ond dwywaith mae Cymru wedi colli ym Murrayfield, y tro diwetha' yn 2007.

Uchafbwynt yr hanner cynta' oedd cais Richard Hibbard wedi bylchiad hyfryd George North. 8-6 i Gymru.

Methodd Leigh Halfpenny dair cic gosb cyn llwyddo.

Ar yr egwyl roedd Cymru ar y blaen o drwch blewyn, 13-12, ond ar y cyfan, doedd dim awch na siâp yn y gêm ac roedd y cicio dibaid yn ei sbwylio.

Chwalu

Yn yr ail hanner roedd chwarae'r Alban yn ddifflach ac yn geidwadol ond er bod Cymru'n cael digon o feddiant, doedd eu strwythur ymosodol yn aml ddim yn ddigon da.

Serch hynny, roedden nhw'n chwalu'r sgrym ac Adam Jones yn flaenllaw.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewr y gêm: Sam Warburton

Er gwaetha' pwysau'r Alban yn y munudau ola' roedd amddiffyn Cymru'n gadarn ond cafodd Paul James gerdyn melyn.

Cyn y gêm dywedodd hyfforddwr dros dro Cymru, Rob Howley: "Rydym wedi cael dwy fuddugoliaeth galed oddi cartref ond rydym yn gwybod y bydd rhaid i ni fod ar ein gorau i adael Murrayfield gyda'r pwyntiau.

"Rydym wedi sôn am fomentwm yn aml yn y bencampwriaeth ac mae'n braf cael mynd i'r gêm gyda dwy fuddugoliaeth y tu cefn i ni.

"Ond mae'r Alban yn yr un sefyllfa ac mae'n mynd i fod yn her."