Hwb o £250,000 i Wrecsam?

  • Cyhoeddwyd
Andy MorrellFfynhonnell y llun, PA

Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn disgwyl y byddan nhw ar eu hennill o tua £250,000 yn dilyn eu taith i Wembley dros y penwythnos.

Bydd y clwb yn cwrdd â Grimsby yn rownd derfynol Tlws yr FA yn eu hymweliad cyntaf â Wembley ddydd Sul, Mawrth 24.

Dywedodd prif weithredwr y clwb, Don Bircham, ei fod yn disgwyl hwb ariannol enfawr.

"Os gawn ni dorf o 30,000, bydd hynny'n golygu £250,000 i'r ddau glwb mewn arian tocynnau," meddai.

"Wedyn mae'r gwobrau - £67,000 am golli a £25,000 yn ychwanegol i'r tîm buddugol. Dylai gwerthu nwyddau a bysiau ddod â'r cyfanswm i £350,000.

"Mae gennym gostau wrth gwrs. Rhaid edrych ar ôl y chwaraewyr, ond ar y gorau fe allwn ni wneud elw o £300,000 - £250,000 ar y gwaethaf."

Blaenoriaeth

Eisoes mae Wrecsam wedi gwerthu 17,000 o docynnau ar gyfer y gêm fawr, ac yn mynd â 70 o fysys i Wembley.

Curodd Wrecsam glwb Gainsborough 4-3 dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol i gyrraedd Wembley am y tro cyntaf yn eu hanes.

Ond mae'r rheolwr Andy Morrell eisoes wedi dweud mai'r flaenoriaeth yw ennill dyrchafiad i Wrecsam yn ôl i'r gynghrair bêl-droed ar ddiwedd y tymor. Disgynnodd y clwb o'r gynghrair yn 2008.

Mae Wrecsam yn ail yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ar hyn o bryd, ac yn disgwyl croesawu'r tîm sydd ar y brig, Mansfield, i'r Cae Ras nos Fawrth.

Ond daeth cyhoeddiad brynhawn Mawrth fod y gêm wedi'i gohirio oherwydd bod gormod o ddŵr ar y Cae Ras.

Dim ond 10 pwynt sy'n gwahanu'r pump uchaf yn y tabl. Mae Wrecsam ddau bwynt y tu ôl i Mansfield ond wedi chwarae un gêm yn fwy.

Kidderminster sy'n drydydd, ac mae gan Gasnewydd a Grimsby gemau wrth gefn.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol