Tad yn annog pob rhiant i sicrhau bod eu plant yn cael y brechlyn MMR
- Cyhoeddwyd

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Nifer sy'n derbyn y brechlyn MMR yn rhy isel i atal yr haint rhag lledu.
Mae tad, y mae ei blant i gyd wedi cael y frech goch, wedi annog pob rhiant i sicrhau bod eu plant yn cael y brechlyn MMR.
Dywedodd Craig Thomas, 36 oed o Dreforys, ei fod yn difaru nad oedd ei ddau fab a merch wedi cael y brechlyn.
"Dwi'n teimlo euogrwydd mawr," meddai. "Trueni na allwn ni droi'r clociau'n ôl."
Roedd ei merch 15 oed Chloe yn gorfod colli rhan o'i harholiad TGAU am ei bod yn sâl.
Mwy na 400
Erbyn hyn, mae mwy na 400 o achosion yn ardal Abertawe.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae nifer y bobl sy'n derbyn y brechlyn MMR yn rhy isel i atal yr haint rhag lledu.
Mae'r corff yn cydnabod bod 'na epidemig o'r haint yn ne orllewin Cymru erbyn hyn ac yn ofni y gallai nifer yr achosion godi i 1,000 erbyn diwedd mis Ebrill.
Dywedodd Mr Thomas: "Mae ca'l tri o blant yn dost yn brofiad ofnadwy. Tri yn yr un cartre', mae'n hunlle'."
Chloe, sy'n mynd i Ysgol Gyfun Treforys, oedd y gynta' i gael yr haint, meddai.
"Erbyn hyn, mae'n teimlo'n well ond roedd 16 arall yn yr ysgol wedi ca'l yr haint cyn hi."
Mae Jordan, 14 oed, yn mynd i Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe, a Keiron, naw oed, yn mynd i Ysgol Gynradd Gymraeg Lon-las.
'Cymhlethdodau difrifol'
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pwysleisio bod unrhyw blant sydd heb gael eu brechu yn debygol iawn o ddal yr haint os ydyn nhw'n dod i gysylltiad ag unrhyw un sydd â'r frech goch.
Maen nhw hefyd yn rhybuddio y gallai rhai cleifion gael cymhlethdodau difrifol gyda'u golwg a'u clyw, neu hyd yn oed gael niwed i'r ymennydd neu farw, maes o law.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai dim ond 100 o blant allan o 3,800 dros ddwy flwydd oed oedd mewn perygl oedd wedi cael y brechlyn yn ardal Abertawe yr wythnos ddiwetha'.
Ar y raddfa hon, roedd angen dwy flynedd cyn brechu pawb mewn perygl.
Dywedodd Dr Marion Lyons, cyfarwyddwr gwarchod iechyd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Os nad yw nifer y plant sy'n cael y brechiad MMR yn cynyddu'n ddramatig, bydd y frech goch yn parhau i ledaenu'n gyflym, gan gyrraedd y lefelau a welwyd yn Nulyn yn 1999-2000.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, cafodd 1,200 o blant eu heintio a bu farw tri.
"Gallai brechiad syml a diogel gan eich meddyg teulu amddiffyn plentyn, arbed eu bywyd, a helpu i amddiffyn plant eraill hefyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013