Shane Williams yn cyflwyno llun i'r Llyfrgell Genedlaethol

  • Cyhoeddwyd
Shane WilliamsFfynhonnell y llun, David Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Bydd copïau o'r llun yn cael eu gwerthu i godi arian i Gastell Aberteifi

Fe wnaeth y chwaraewr rygbi Shane Williams gyflwyno portread ohono gan yr arlunydd David Griffiths i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae David Griffiths wedi darlunio nifer fawr o enwogion Prydain yn ystod ei yrfa, gan gynnwys y Tywysog Charles, y cyn-Brif Weinidog James Callaghan a'r canwr Bryn Terfel.

Mae'r llun yn dangos Shane yn yr ystafell newid, yn ei wisg rygbi cenedlaethol, cyn ei gêm ddiwethaf dros ei wlad yn erbyn Awstralia yn 2011.

Yn ogystal mae copïau o'r llun wedi'u harwyddo gan seren i'w gwerthu er mwyn codi arian i adnewyddu Castell Aberteifi.

£150,000

Mae angen i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Cadwgan, sydd wedi bod yn ymgyrchu ers 14 mlynedd i arbed y safle, godi dros £150,000 erbyn diwedd 2014 i ddiogelu'r prosiect.

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cael hawlfraint ar bortread Shane Williams a'r gobaith yw codi miloedd o bunnoedd wrth werthu printiau.

Mae'r chwaraewr wedi arwyddo 100 o brintiau, sydd yn mesur 40 x 30 modfedd, am bris o £350 yr un.

Mae Richard Thomas, un o ymddiriedolwyr y castell, wedi adnabod David Griffiths ers i'r ddau ohonynt rannu tŷ yn Llundain tra'n fyfyrwyr.

"On'dydy hi'n beth neis bod y ddau eicon yma - un o fyd rygbi ac un o fyd y celfyddydau wedi dod at ei gilydd i helpu Castell Aberteifi?" meddai.

Dechreuwyd gwaith adfer yn y castell yng Ngorffennaf, gwaith sy'n cynnwys adnewyddu'r plasty Sioraidd rhestredig Gradd II a gafodd ei ychwanegu ym 1827 a'r gerddi hanesyddol.

Gydol y flwyddyn nesaf caiff y safle'i ddatblygu'n fan amlbwrpas ar gyfer y gymuned yn ogystal â chanolfan addysgol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol