Castell Aberteifi: Tynnu pileri dur
- Cyhoeddwyd
Mae pileri dur sydd wedi bod yn cynnal waliau castell Aberteifi am bron 40 o flynyddoedd yn cael eu tynnu gan graen enfawr ddydd Gwener.
Rhan yw hyn o brosiect adfywio'r castell sy'n costio £12 miliwn.
Bydd y safle'n ailagor ym mis Ebrill 2014 fel atyniad i ymwelwyr.
Yno bydd lle i gynnal gweithgareddau'n ymwneud â'r iaith Gymraeg, diwylliant, crefftau, yr amgylchedd ac astudiaethau garddwriaethol.
Yn ogystal bydd y safle'n cynnwys llety, canolfan dreftadaeth, bwyty, gardd yr Eisteddfod gyda tho symudol, a lle i gynnal cyngherddau awyr agored.
Eisteddfod
Bydd hefyd yn gartref i'r unig arddangosfa Eisteddfodol barhaol.
Mae'r ymddiriedolaeth sydd wedi'i sefydlu er 1999 i achub Castell Aberteifi wedi sicrhau £4.7m oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri a £4.3m oddi wrth Gronfa Ddatblygu Rhanbarthau Ewrop.
Ym mis Mehefin 2012, dyfarnodd y Grant Trosglwyddo Asedau Cymunedol y byddai'r prosiect yn derbyn bron i £800,000.
Codwyd y castell yn 1100 gan Gilbert de Clare, Iarll cyntaf Penfro.
Yn 1166 cipiodd Rhys ap Gruffydd y castell a'i droi'n gaer garreg yn 1171.
Yn ôl rhai cafodd yr eisteddfod gyntaf erioed ei chynnal yn y castell yn 1176 cynhaliwyd dan nawdd yr Arglwydd Rhys n ôl rhai.
Codwyd y castell yn 1100 gan Gilbert de Clare, Iarll cyntaf Penfro.
Yn 1166 cipiodd Rhys ap Gruffydd y castell a'i droi'n gaer garreg yn 1171.
Yn ol rhai cafodd yr eisteddfod gyntaf erioed ei chynnal yn y castell yn 1176 cynhaliwyd dan nawdd yr Arglwydd Rhys n ôl rhai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012