Dim digon o eiddo llai ar gael i'w rhentu
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y tenantiaid yng Nghymru sy'n wynebu symud i dai llai yn llawer iawn uwch na'r nifer o dai llai sydd ar gael i'w rhentu gan landlordiaid cymdeithasol.
Mae'r newidiadau i Fudd-dal Tai, a ddaeth i rym yr wythnos yma, yn golygu bod tenantiaid sydd ag ystafelloedd gwag yn eu cartrefi yn cael eu hannog i symud i eiddo llai neu dderbyn llai o fudd-dal.
BBC Cymru sydd wedi gwneud ymchwil i'r sefyllfa ar draws Cymru wrth i denantiaid wynebu colli 14% o'u budd-dal os oes ganddyn nhw un ystafell sbâr neu 25% am ddwy ystafell.
Y dewis i denantiaid yw symud i eiddo llai neu golli arian gyda'r gwrthwynebwyr yn disgrifio'r cam fel "treth ystafell wely".
Ond mae eiddo llai o fewn y cymdeithasau tai yn brin iawn.
Dim ar gael
Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru bod 'na dros 28,000 o bobl yn byw mewn tai cymdeithasol sydd ddim yn llawn o ganlyniad i'r ystafelloedd gwag.
Mae BBC Cymru wedi cael gwybod mai ychydig llai na 400 o dai un llofft sydd ar gael a bod 70,000 o deuluoedd ar restrau aros am dai cymdeithasol.
Mewn pedwar o'r 22 awdurdod yng Nghymru, Ceredigion, Blaenau Gwent, Mynwy a Thorfaen, does 'na ddim un tŷ un ystafell ar gael gan gymdeithasau tai.
Dywedodd John Puzey o Shelter Cymru, mai'r disgwyl yw y byddai tenantiaid sydd wedi gweld eu plant yn gadael y nyth, er enghraifft, yn symud i eiddo llai.
Ond ychwanegodd nad oedd unrhyw le iddyn nhw fynd a'i fod yn pryderu am yr effaith ar gymunedau.
"Rydym yn sôn am bobl sydd wedi byw yn y cymunedau yma am amser maith," meddai.
Buddsoddiad
"Dwi'n gwybod bod rheolwyr y cymdeithasau yn pryderu am effaith hirdymor hyn ar drigolion a chymunedau sefydlog a fydd yn cael eu gorfodi i godi pac a gwasgaru.
"Fe all hyn gael effaith dramatig ar gymunedau."
Dywedodd Sioned Hughes, o Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru:
"Rydan ni'n gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi ei wneud ond yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi llawer iawn o'r arian - y £300 miliwn fydd ar gael o fis Mai - i adeiladu tai un a dwy ystafell wely a chael cefnogaeth i roi opsiynau ariannol gwahanol i denantiaid.
"Mae'r cymdeithasau tai yn gwybod am lefel y broblem, mae angen gweithio efo nhw yn y tymor byr er mwyn sicrhau na fydd 'na galedi."
Dywedodd Adran Gwaith a Phensiynau San Steffan wrth BBC Cymru fod y Llywodraeth yn cydnabod y galw mawr am dai yng Nghymru a bod miloedd ar restrau aros neu'n byw mewn tai anaddas.
Dydyn nhw ddim, meddai nhw, yn disgwyl i lawer o bobl orfod symud o'u cartrefi oherwydd y newidiadau i'r budd-dal. Maen nhw hefyd yn rhoi dros £6 miliwn i gynghorau sir Cymru i fedru helpu'r tenantiaid sydd angen y cymorth mwya'.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2013
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2013