Marwolaeth yn Abertawe: Dioddef o'r frech goch

  • Cyhoeddwyd
Y fflat yn AbertaweFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y corff ei ddarganfod mewn fflat yn Heol Port Tennant am 8:15am fore Iau.

Cafwyd cadarnhad fod dyn 25 oed y daethpwyd o hyd i'w gorff yn Abertawe ddydd Iau yn dioddef o'r frech goch.

Ond mae profion yn dal i gael eu cynnal cyn penderfynu ai hwn oedd achos ei farwolaeth.

Ei enw yw Gareth Williams a chafodd ei gorff ei ddarganfod mewn fflat yn Heol Port Tennant am 8:15am fore Iau.

Mae llefarydd ar ran yr heddlu wedi dweud bod hwn yn "ddigwyddiad sydyn a heb esboniad."

Nid oedd yn farwolaeth amheus, meddai.

Dywedodd Gohebydd Radio Cymru, Catrin Heledd: "Mae 'na lawer yn poeni yn yr ardal.

"Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru mai eu blaenoriaeth yw sicrhau na fydd mwy'n cael ei heintio yn ardal Abertawe."

Dros 800

Mae dros 800 o achosion o'r salwch wedi eu cadarnhau yn ardaloedd byrddau iechyd Abertawe Bro Morgannwg, Powys a Hywel Dda.

Mae swyddogion yn disgwyl am ganlyniadau archwiliad post mortem.

"Beth bynnag yw achos y farwolaeth ni ddylen ni synnu os bydd marwolaethau o'r frech goch yng Nghymru ...," meddai'r Dr Marion Lyons, Cyafrwyddwr Amddiffyn Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru.

'Adeg drychinebus'

"Rydyn ni'n gwybod bod y crwner yn ymchwilio i'r farwolaeth ac rydyn ni'n cydymdeimlo â'r teulu ar adeg drychinebus."

Ddydd Sadwrn bydd sesiynau galw heibio yn Ysbyty Treforys, Ysbyty Singleton, Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont, ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot.

Dywedodd y Dr Lyons: "Gall y clefyd fod yn farwol a bydd un ymhob 1,000 yn marw.

"Mae'r rhai sydd ddim wedi cael dau ddos o'r MMR yn debygol iawn o ddal y clefyd.

"Yn benodol, rydyn ni'n poeni am blant a phobl ifanc sy' rhwng 10 a 18 oed.

"Felly dylai rhieni plant na chafodd ddau ddos o'r MMR drefnu ar frys gyda'u meddygon teulu."