Llais pobl ifanc i'w clywed wrth ystyried eu hiechyd

  • Cyhoeddwyd
Y daflen wybodaethFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru wedi creu y daflen.

Mae taflen wybodaeth wedi ei chyhoeddi sydd yn amlinellu hawliau pobl ifanc i gael dweud eu dweud am unrhyw benderfyniad am eu hiechyd.

Mae'r hawl hwn yn cael ei amlinellu o dan Erthygl 13 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).

Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru sydd wedi cydweithio i greu'r daflen.

Ond gofynnwyd i weithwyr iechyd a phobl ifanc i helpu i'w ddatblygu.

Mae'r canllaw newydd yn nodi'r hyn y dylai pobl ifanc ddisgwyl gan y gwasanaeth iechyd.

Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth i rieni a gweithwyr iechyd ac yn pwysleisio bod yna gyfrifoldeb arnyn nhw i ofalu am les y person ifanc.

'Cam pwysig'

Dywedodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru: "Yn aml iawn mae rhoi caniatâd mewn lleoliadau gofal iechyd yn golygu ein bod yn gorfod gosod hawliau plant yn erbyn hawliau rhieni.

"Er nad yw'r cyhoeddiad hwn yn addo ateb pob problem foesegol, mae wedi cael ei ddrafftio gyda'r bwriad o rymuso plant a phobl ifanc i fod yn rhan o benderfyniadau am eu hiechyd, eu gofal iechyd neu eu triniaeth."

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, mae'r daflen yn gam pwysig ymlaen er mwyn gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl ifanc a phlant yn cael eu clywed: "Rydym ni eisiau i bobl ifanc ymwneud â phenderfyniadau am eu hiechyd, er mwyn i ni fedru eu helpu i wella eu lles a'u cyfleoedd o gael bywyd hir, iach.

"Rwy'n croesawu'r daflen hon ac fe hoffwn ei gweld yn cael ei defnyddio'n helaeth i gefnogi ein holl bobl ifanc a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol