£10m yn fwy i warchod rhag llifogydd
- Cyhoeddwyd
Cafodd £10 miliwn yn ychwanegol ei glustnodi i warchod cymunedau yng Nghymru rhag llifogydd.
Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol Alun Davies bod hyn yn dilyn un o'r blynyddoedd gwlypaf erioed yn 2012, ac fe gafodd hynny effaith ar gartrefi a busnesau.
Siroedd Dinbych a Cheredigion a ddioddefodd waethaf.
Mae Llywodraeth Cymru'n mynnu ei bod wedi gwario dros £160m ar warchod rhag llifogydd, gan leihau'r risg i 7,000 o adeiladau.
Mae'r £10m ychwanegol yn rhan o gynllun buddsoddi cyfalaf gafodd ei amlinellu gan y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yr wythnos ddiwethaf.
Ymrwymiad
Ym mis Mehefin y llynedd cafodd trefi a phentrefi yn ardal Aberystwyth eu taro gan lifogydd wedi i werth mis o law ddisgyn o fewn 24 awr. Yna ym mis Tachwedd cafodd cannoedd o gartrefi yn Llanelwy a Rhuthun yn Sir Ddinbych eu taro, a bu farw menyw oedrannus.
Dywedodd Mr Davies bod ymrwymiad i reoli risg llifogydd ar draws Cymru.
"Allwn ni ddim atal llifogydd," meddai, "ond fe allwn ni reoli'r risg a lleihau'r goblygiadau.
"Ynghyd â darparu gwarchodaeth rhag llifogydd ac erydu'r arfordir i rai o'n cymunedau mwyaf bregus, bydd yr arian yma hefyd yn cynorthwyo i greu a sicrhau swyddi yn lleol."
Ychwanegodd Ms Hutt: "Bydd y buddsoddiad ychwanegol yma yn ein gwarchodfeydd rhag llifogydd yn amddiffyn cymunedau ar draws Cymru."
Cynlluniau
Bydd yr arian yn mynd tuag at nifer o gynlluniau gan gynnwys :
£5m i warchod dros 215 o gartrefi a busnesau yn ardal Bae Colwyn a phrif lein rheilffordd y gogledd. Dywed Llywodraeth Cymru y bydd hynny hefyd yn rhoi hwb i dwristiaeth drwy wella traethau;
£2m i ymestyn gwaith ar gynllun rheoli llifogydd yn Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, a fydd yn lleihau'r risg o lifogydd i dros 90 o adeiladau;
£1m ar gyfer rhan arall o'r gwaith i atal erydu'r arfordir yn Borth fydd yn gwarchod dros 330 o gartrefi a busnesau a lein rheilffordd y Cambrian;
£2m i gefnogi gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i wella amddiffynfeydd llifogydd ym Mhentywyn, Llanfair Talhaearn, Pontblyddyn, Ystrad Mynach, aber Afon Hafren, Glanyfferi, Pen-y-bont ar Ogwr a Thalsarnau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi croesawu'r addewid o £2m i gynlluniau amddiffyn rhag llifogydd ar draws Cymru, gan ddweud y byddai'r cefnogi eu rhaglen risg llifogydd drwy gydol 2013/14.
Dywedodd Trefor Owen o'r corff: "Mae ein gwaith yn lleihau'r risg o lifogydd i gartrefi a busnesau ac rydym yn ymgymryd â rhaglen estynedig o waith i sicrhau bod ein cymunedau yn cael eu gwarchod yn well."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai 2013
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2013