Difrod llifogydd yn costio £525,000 i gyngor Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd yn NhalybontFfynhonnell y llun, Sam Ebenezer
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i wasanaethau brys achub nifer o bobl o'u cartrefi yn Nhalybont yn llifogydd mis Mehefin

Gallai'r gwaith o drwsio ffyrdd a phontydd, a ddifrodwyd gan lifogydd yn rhannau o ganolbarth Cymru fis Mehefin diwethaf, gostio mwy na £500,000 i gyngor Ceredigion.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu bron i £140,000 i helpu i dalu am y gwaith.

Roedd y llifogydd wedi effeithio ar dref Aberystwyth a phentrefi cyfagos yn cynnwys Talybont, Dôl-y-Bont, Penrhyn-coch a Llandre.

Bu'n rhaid i nifer o bobl symud i lety dros dro ar ôl i'w tai gael eu difrodi. Ond, yn ôl y cyngor sir, mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi dychwelyd adref erbyn hyn.

'Adnewyddu'

Cafodd tai eu gwagio wedi i werth mis o law ddisgyn mewn 24 awr rhwng Mehefin 8 a 9 y llynedd.

Bu rhan o ogledd Ceredigion o dan 5 troedfedd (1.5 metr) o ddŵr wrth i barciau carafannau, eiddo, a busnesau gael eu taro.

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Ceredigion: "Roedd cost llifogydd mis Mehefin i'r awdurdod tua £525,000.

"Ond mae'r awdurdod wedi derbyn tua £139,000 gan Lywodraeth Cymru, felly'r gost derfynol i'r cyngor oedd tua £386,000."

Ychwanegodd fod swyddogion y cyngor yn ymweld ag eiddo a ddifrodwyd gan y llifogydd yr wythnos hon i "gadarnhau faint o bobl sydd yn dal heb ddychwelyd i'w cartrefi".

"Mae pawb a gafodd eu taro yn Nhalybont wedi dychwelyd i'w cartrefi ond mae rhai yn dal heb ddychwelyd i'w cartrefi yn Llanbadarn a Dôl-y-bont," meddai.

Apêl

Cafodd tŷ Mick Fothergill yn Nhalybont ei ddifrodi gan y llifogydd ond symudodd ef a'i wraig yn ôl i'w cartref rai wythnosau yn ôl.

"Mae'r tŷ wedi cael ei adnewyddu ond mae tipyn o waith yn dal ar ôl i'w wneud," meddai Mr Fothergill.

Codwyd £128,000 gan apêl i helpu'r bobl a ddioddefodd yn sgil y llifogydd.

Mae tua 130 o deuluoedd wedi derbyn rhan o'r arian ac yn ôl y cyngor bydd y £21,000 sy'n weddill yn cael ei ddosbarthu maes o law.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol