Ymarfer i baratoi am lifogydd
- Cyhoeddwyd
Bydd aelodau o'r holl wasanaethau brys ac asiantaethau eraill yn rhan o ymarferion i baratoi am lifogydd yn ardal y Bala ddydd Mercher.
Mae'r llifogydd diweddar yn Sir Ddinbych wedi dangos yr angen i fod yn barod pe bai rhywbeth tebyg yn digwydd eto.
Bydd tri Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru, Heddlu'r Gogledd, yr RNLI, Gwasanaeth Achub yr Awyrlu, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwynedd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwylwyr y Glannau a Chymdeithas Achub Mynydd Gogledd Cymru yn ymuno gyda rhai mudiadau eraill ar gyfer Ymarfer y Berwyn.
Nod y diwrnod fydd creu sefyllfaoedd sy'n galw am achub pobl o lifogydd mewn amgylchiadau heriol.
'Profiad hanfodol'
Dywedodd prif swyddog cynorthwyol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Paul Claydon:
"Mae un o bob chwe eiddo yng Nghymru a Lloegr yn wynebu risg o lifogydd. Dim ond trwy weithio ac ymarfer gyda'n gilydd y gallwn ni fod yn barod i warchod bywydau pobl, eu cartrefi a'u bywoliaeth pan ddaw llifogydd.
"Bydd yr ymarfer yn y Bala yn brawf ar ein hymateb rhanbarthol i lifogydd difrifol o afonydd, y môr, cronfeydd dŵr a dŵr ar y tir ac ar wyneb y ffyrdd a allai ddigwydd mewn argyfwng.
"Fel rhan o'r ymarfer byddwn yn delio gydag achub pobl sydd wedi eu dal mewn llifogydd ac wedi eu hanafu, achub pobl o ddŵr sy'n llifo'n gyflym a defnyddio offer arbenigol a staff yn ardal y Bala.
"Mae ymarferion o'r fath yn gallu cynnig profiad hanfodol i'r rhai sy'n gweithio gyda'r gwasanaethau brys mewn amgylchiadau anodd."
Fe gafodd pobl yn yr ardal ddiwrnod cymunedol i godi ymwybyddiaeth o'r digwyddiad ac o'r peryglon ym mis Mawrth. Nod y diwrnod oedd rhoi cyfle i bobl yr ardal ddysgu mwy am sut y mae ymatebwyr cyflym yn gweithredu pan mae llifogydd yn digwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd14 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2012