Cofio ymweliad Dylan Thomas i Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Dylan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n 60 mlynedd ers ymweliad Dylan Thomas ag Eisteddfod Llangollen

Mae Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn dathlu 60 mlynedd eleni ers ymweliad Dylan Thomas â'r ŵyl yn 1953.

Roedd y bardd yn ymweld â'r eisteddfod er mwyn gwneud darllediad radio i'r BBC.

Bedwar mis yn ddiweddarach bu farw yn Efrog Newydd yn 39 mlwydd oed.

Mae'r Eisteddfod yn cynnal digwyddiad coffa arbennig i ddathlu ymweliad Dylan Thomas a fydd yn cynnwys darlleniad gan ei or-nai.

Mae yna hefyd arddangosfa yn dathlu'r ymweliad.

Dywedodd Ian Lebbon, Cadeirydd Marchnata'r Eisteddfod, bod y papur lleol ar y pryd wedi cyfeirio ar 'Ymweliad y Bardd Mawr'.

"Roedd yn rhywbeth arbennig i gael Dylan Thomas yma yn Llangollen," meddai.

"Nid ydym yn sicr ble arhosodd ond mae'n bosib mai yn y Royal Hotel oedd o gan iddo sôn bod ei westy dros y bont.

"Dwi'n meddwl ei bod yn debyg iddo ymweld â'r rhan fwyaf o dafarnau'r dref tra roedd o yma er bod ganddo Aneurin Talfan Davies o'r BBC i gadw llygad arno yn ogystal â'i wraig, Caitlin, a'i ferch, Aeronwy."

Wedi'r ymweliad ysgrifennodd Pennaeth Rhaglenni Cymru'r BBC, Aneurin Talfan Davies, am brofiadau Dylan Thomas yn Llangollen.

"Treuliwyd yr wythnos yn crwydro'n ddiamcan drwy strydoedd y dref, gydag ambell hanner awr ym mhabell yr eisteddfod a llawer o oriau wrth farau tafarnau'r dref."

Mae hefyd yn cofio dull Thomas o weithio, sef nodiadau ysgrifenedig ar ddarnau o becynnau sigarennau, a'r panig ar y daith yn ôl i lawr i Gaerdydd pan ofnodd Thomas ei fod wedi colli ei ddeunydd.

Cafodd y bardd ei dalu 20 gini am ei waith.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol