BBC ac Eos: cynnig arian at gostau cyfreithiol
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC wedi cynnig fwy o arian tuag at gostau cyfreithiol Eos, ar ôl iddynt wario'r £50,000 a rhoddwyd gan y gorfforaeth yn gynharach eleni i baratoi ar gyfer tribiwnlys hawlfraint.
Ym mis Medi bydd tribiwnlys yn cwrdd i glywed yr achos, ar ôl i'r naill ochr fethu a chytuno ar bris teg i chwarae cerddoriaeth aelodau Eos ar wasanaethau'r BBC.
Yn gynharach eleni fe gollodd y BBC yr hawl i chwarae tua 30,000 o ganeuon dan reolaeth Eos am gyfnod o chwe wythnos.
Cytundeb dros dro
Ers cyrraedd cytundeb dros dro ym mis Chwefror mae'r BBC wedi talu Eos £10,000 y mis am yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth ei aelodau.
Ond mae Eos yn dweud na allant fforddio'r gynrychiolaeth gyfreithiol sydd ei angen er mwyn mynd i'r tribiwnlys yn yr hydref, ac mae yna gynlluniau ar y gweill i gynnal cyngherddau i godi arian tuag at yr achos yn y misoedd nesaf.
Er bod Eos yn dweud nad ydynt wedi gofyn yn uniongyrchol am fwy o arian gan y BBC tuag at gostau'r tribiwnlys, mae'r gorfforaeth wedi cynnig taliadau ychwanegol.
Dwedodd Dafydd Roberts, aelod o fwrdd Eos, ei fod wedi ysgrifennu at y BBC i amlinellu'r sefyllfa ariannol:
"Rydyn ni'n bwriadu cynnal gweithgareddau ym mis Medi, cyngherddau, er mwyn codi arian i ni fedru cyflogi cyfreithwyr a bargyfreithiwr, ac arbenigwr cerdd ar gyfer y gwrandawiad.
"Ar ôl egluro hyn mewn llythyr ddydd Gwener at y BBC, mae'r BBC wedi cynnig ychydig bach mwy o arian i ni fedru cyflwyno adroddiad arbenigol, a hefyd cyflogi bargyfreithwyr, dwi'n gobeithio, ar gyfer y gwrandawiad llawn."
Mewn datganiad dwedodd y BBC: "Mae'r BBC wastad wedi ymrwymo i ddod o hyd i gytundeb parhaol i'r anghydfod drwy'r broses Tribiwnlys Hawlfraint.
"Gwrandawiad teg"
"Yn ystod y diwrnodau diwethaf rydym wedi cynnig cefnogaeth ariannol ychwanegol i Eos er mwyn sicrhau bod ganddynt gynrychiolaeth gyfreithiol addas fel bod dadleuon eu haelodau ynglŷn â gwerth masnachol eu hawliau darlledu yn cael gwrandawiad teg."
Dywedodd Mr Roberts bod cyfraniad £50,000 y BBC tuag at gostau cyfreithiol Eos wedi ei wario ar ôl gwrandawiad dros dro'r tribiwnlys a ddigwyddodd ym mis Ebrill.
Penderfynodd cadeirydd y tribiwnlys i barhau gyda'r drefn o dalu £10,000 y mis i Eos gan y BBC tan fod gwrandawiad llawn yn digwydd ym mis Medi.
Yn y gwrandawiad dros dro, daeth i'r amlwg fod yna wahaniaeth mawr rhwng yr hyn roedd Eos yn gobeithio derbyn, a'r hyn roedd y BBC yn barod i dalu, am gerddoriaeth aelodau Eos.
Roedd y BBC wedi dadlau mai £100,000 y flwyddyn oedd gwerth yr hawl i ddefnyddio'r gerddoriaeth, tra bod Eos am gynyddu'r gost i £1.5m y flwyddyn.
Bydd gwrandawiad llawn y tribiwnlys hawlfraint yn digwydd ar ddiwedd mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mai 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013