BBC ac Eos: Cytundeb dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC ac Eos wedi dod i gytundeb dros dro fydd yn golygu y bydd cerddoriaeth aelodau Eos yn dychwelyd i Radio Cymru ar unwaith.
Ers Ionawr 1 mae'r anghydfod am werth masnachol yr hawliau darlledu wedi golygu nad oedd gan y BBC yr hawl i ddarlledu cerddoriaeth aelodau Eos, y corff sy'n cynrychioli cerddorion a chyhoeddwyr Cymraeg.
Ond mae cadeirydd Eos wedi beirniadu "BBC Llundain am ymddwyn mor fygythiol" gan ychwanegu mai un o'r rhesymau pam fod Eos wedi rhoi'r gerddoriaeth yn ôl ar yr awyr yw nad yw Eos "am weld mwy o niwed yn cael ei wneud i Radio Cymru".
Croesawyd y datblygiad gan Gyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.
"Rwyf wrth fy modd bod Eos wedi caniatáu i Radio Cymru chwarae cerddoriaeth eu haelodau unwaith eto.
'Pwysig'
"Mae hyn yn ddatblygiad pwysig sy'n sicrhau bod y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i wrandawyr Radio Cymru unwaith eto gyda'r gorau.
"Mae cerddoriaeth Gymraeg yn hanfodol bwysig i Radio Cymru ac mae'r chwech wythnos ddiwethaf heb y gerddoriaeth wedi bod yn dipyn o her.
"Hoffwn ddiolch i wrandawyr Radio Cymru am eu hamynedd yn ystod yr anghydfod yn ogystal â staff Radio Cymru sydd wedi gweithio'n ddi-flino i gynnal y gwasanaeth o dan amodau anodd.
"Ein ffocws nawr yw cyrraedd cytundeb parhaol sy'n deg i gerddorion Cymraeg a thalwyr ffi'r drwydded. Mae'n galonogol ein bod yn medru parhau gyda'n trafodaethau yn gwybod nad yw'r anghydfod bellach yn cael effaith ar raglenni Radio Cymru."
'Ar unwaith'
Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru: "Byddwn yn adfer cerddoriaeth aelodau Eos i Radio Cymru ar unwaith.
"Byddwn ni hefyd yn dychwelyd i amserlen lawn yr orsaf cyn gynted â phosib ac yn adfer yr oriau a gwtogwyd o ganlyniad i'r anghydfod mor fuan â sy'n ymarferol wythnos nesa.
"Yn dilyn y newidiadau diweddar i'n rhaglenni newyddion a chyhoeddiad heddiw rydw i'n ffyddiog bod Radio Cymru nawr yn gallu cynnig y gwasanaeth gorau posib i'n gwrandawyr.
"Yn dilyn cytundeb heddiw bydd Eos a'r BBC yn parhau â'u hymdrechion i ddod o hyd i gytundeb parhaol i'r anghydfod.
"Mae'r ddwy ochr wedi cytuno i drafod cychwyn ar broses o gymodi annibynnol tra'n parhau i baratoi ar gyfer y Tribiwnlys Hawlfraint.
"Mae'r BBC wedi cynnig cefnogi costau cyfreithiol Eos i fyny at £50,000 mewn tribiwnlys er mwyn sicrhau bod dadleuon yr aelodau am werth masnachol eu cerddoriaeth yn cael gwrandawiad teg."
Dywedodd Gwilym Morus, cadeirydd Eos: "Un o'r rhesymau pam rydan ni wedi rhoi'r gerddoriaeth yn ôl ar yr awyr ydi ein bod ni ddim am weld mwy o niwed yn cael ei wneud i Radio Cymru.
"Dw i'n credu erbyn hyn fod gan BBC Llundain flaenoriaethau tu hwnt i ddiogelu ein gwasanaeth cenedlaethol ac felly roedd hi'n amlwg fod raid i ni wneud rhywbeth i'w gwarchod.
"Gwrthododd y BBC ddod i delerau i sicrhau trwydded cyn cychwyn y flwyddyn ac felly doedd dim modd rhoi hawl i ddefnyddio'r gerddoriaeth ar ôl Ionawr 1.
"Ein hamcan oedd sicrhau cytundeb ymhell cyn i ni ddod i'r pwynt yna.
"Serch hynny, ers y cychwyn mae BBC Llundain wedi gwrthod derbyn fod yna werth i'n cynnyrch tu hwnt i raddfa artiffisial PRS, ac o ganlyniad dw i'n teimlo fod y trafodaethau hyd yn hyn wedi bod yn unochrog iawn.
"Er ein bod ni wedi rhoi'r gerddoriaeth yn ôl ar yr awyr, ac wedi bod yn awgrymu hynny ers peth amser, maen nhw dal am ein hel ni o flaen tribiwnlys hawlfreintiau.
"Doedd dim rhybudd o flaen llaw eu bod nhw am ddod ag achos yn ein herbyn, roeddem ar ganol trafodaethau ac yn gwneud ein gorau i ddod at ddatrysiad sydyn.
"Mae'n anffodus iawn fod BBC Llundain yn ymddwyn mor fygythiol ond efallai bydd y tribiwnlys yn gyfle i ni gael gwrandawiad teg o'r diwedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2013