Buddsoddi mewn ambiwlansys newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi buddsoddi mewn dau gerbyd newydd y maen nhw'n eu galw'n "arloesol".
Gan gostio bron hanner miliwn o bunnau bydd y cerbydau yn galluogi'r gwasanaeth i ddelio gyda digwyddiadau mawr.
Gall yr ambiwlansys gario pum aelod o staff yr un ac fe fyddan nhw'n gweithredu fel canolfan i reolwyr digwyddiadau, fydd yn golygu y bydd ystafelloedd rheoli'n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith dydd i ddydd.
Maen nhw'n cynnwys y dechnoleg ddiweddara' gan gynnwys lloeren sy'n galluogi staff i ddefnyddio cronfeydd data a gwefannau'r ymddiriedolaeth ar safleoedd ac adlen ar gyfer briffio aelodau o'r tîm.
Dywedodd swyddog cynllunio achosion brys yr ymddiriedolaeth Patrick Rees: "Mae'r dechnoleg gyfathrebu a lloeren gorau posibl yn yr unedau modern hyn a gallan nhw weithredu fel cyfleusterau rheoli ar eu pen eu hunain.
"Byddan nhw'n chwarae rôl hanfodol i gefnogi ein comanderiaid digwyddiadau, sydd weithiau'n gorfod gwneud penderfyniadau hynod anodd mewn amgylchiadau heriol a deinamig."
Mae'r cerbydau'n cael eu cadw mewn mannau strategol hyd yr M4 a'r A55 er mwyn eu galluogi i ymateb i ddigwyddiadau ledled Cymru, gan gynig cefnogaeth i gerbydau tebyg sydd eisoes yn cael eu defnyddio.
Yn ogystal maen nhw'n addas ar gyfer mynychu digwyddiadau mawr fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2013