Carwyn Jones yn addo ap a gwefan newydd i hyrwyddo'r Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Bydd ap a gwefan newydd i hyrwyddo gwasanaethau a digwyddiadau Cymraeg yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i ymgynghoriad a ystyriodd ddyfodol yr iaith yng nghyd-destun canlyniadau cyfrifiad 2011.
Wrth amlinellu'r camau nesaf yn dilyn Y Gynhadledd Fawr, dywedodd y prif weinidog fod angen newid agwedd ac ymddygiad pobl er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei siarad a'i chlywed mewn cymunedau a gweithleoedd.
Adleisiodd addewid Iaith Pawb, dolen allanol, cynllun gweithredu a gyhoeddwyd yn 2003, i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried ar draws portffolio pob un o weinidogion Llywodraeth Cymru, ac fe ddywedodd Mr Jones y bydd canllaw yn cael ei baratoi ar gyfer awdurdodau lleol i gydfynd â'r cyngor technegol ar gynllunio a'r Gymraeg (TAN 20).
Yn ogystal â'r ap a'r wefan, bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cynhyrchu pecyn gwybodaeth "i wella ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a'r defnydd ohoni yn y gweithle" ac yn datblygu ymgyrch "5 y dydd" i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg yn amlach.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu chwe chynllun digidol gan gynnwys prosiect testun-i-lais gan Ganolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, ac ap newydd ar gyfer datblygu sgiliau y Gymraeg i blant o dan 7 oed gan Bartneriaeth Penrhys.
Dywedodd Mr Jones mai camau cychwynnol oedd y rhain ac y byddai yna gyhoeddiadau pellach yn y gwanwyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2013
- Cyhoeddwyd31 Mai 2013
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2013