Problemau ariannol ar fferm gymunedol
- Cyhoeddwyd

Mae'r fferm gymunedol gyntaf ym Mhrydain mewn trafferthion ariannol, ac yn wynebu cael ei gwerthu.
Fe fydd 750 o randdeiliaid canolfan amgylcheddol Moelyci ger Bangor yn cwrdd ddiwedd y mis.
Fe fyddan nhw'n trafod cynnig gan elusen ym Mhowys i gymryd y llyw a rheoli'r fenter.
Ond gallai hyn olygu gwerthu mynydd Moelyci ac adeiladu cartrefi fforddiadwy a phrosiect ynni adnewyddadwy ar safle'r fferm.
Fe gafodd Moelyci ei sefydlu 10 mlynedd yn ôl pan werthodd y perchnogion blaenorol - stâd Penrhyn - y safle.
Fe ddaeth pobl leol at ei gilydd i'w brynu, er mwyn rhwystro datblygu nifer o dai gwyliau. Erbyn hyn, mae'n cynnwys 350 acer o dir, tŷ fferm ac adeiladau fferm, rhandiroedd a gardd farchnad.
'Trafferthion ers amser'
Y llynedd, yn dilyn trafferthion ariannol, fe gafodd bwrdd cyfarwyddo'r fenter gyngor gan Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry i reoli Moelyci.
Mae'r ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar ailgylchu a rheoli tir.
Mewn llythyr cyfrinachol at randdeiliaid gafodd ei weld gan BBC Cymru, mae'r Ymddiriedolaeth nawr yn awgrymu y dylai gael lês o 28 mlynedd ar y safle, yn cynnwys y dewis i'w brynu yn ystod y tair blynedd gyntaf.
Mae'r llythyr hefyd yn dweud y dylai'r Ymddiriedolaeth gael rhyddid i ystyried nifer o fesurau - yn eu mysg, mae gwerthu'r safle a datblygu prosiect ynni.
Yn ôl yr Ymddiriedolaeth, bydd yn buddsoddi oddeutu £180,000 yn y fenter, gan gadw Moelyci fel canolfan amgylcheddol ac o dan berchnogaeth gymunedol.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran bwrdd Moelyci nad oedd am wneud sylw ar y cynigion cyn y cyfarfod rhanddeiliaid ar Mehefin 27.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2012