Pleidlais yn sicrhau dyfodol fferm gymunedol Moelyci
- Cyhoeddwyd

Mae'r cynllun i achub Moelyci wedi cael sêl bendith cyfranddalwyr
Mewn cyfarfod cyffredinol arbennig, mae cyfranddalwyr canolfan amgylcheddol gymunedol ger Bangor wedi pleidleisio o blaid cynllun i geisio ei hachub.
Cafodd y cyfarfod cyffredinol arbennig ei alw gan gyfarwyddwyr Canolfan Amgylcheddol Moelyci Cyf, sydd wedi'i leoli ar fferm fynydd 390 erw'r tu allan i Dregarth, ger Bangor.
Pwrpas y cyfarfod oedd cael cefnogaeth y cyfranddalwyr i gynnig gan gyfarwyddwyr Moelyci ac Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry a fyddai'n sicrhau dyfodol y ganolfan.
Yn ystod y cyfarfod, a barodd dros ddwy awr a hanner, roedd cyfranddalwyr wedi llenwi Neuadd Goffa Mynydd Llandygai er mwyn bwrw pleidlais ar y cynnig i dderbyn partner a thenant newydd i'r fferm neu gau'r fferm a'i gwerthu.
Cydweithio
Dywedodd Pauline Egan, cadeirydd Canolfan Amgylcheddol Moelyci Cyf: "Mae ein partner newydd - Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry - yn elusen Gymreig a chwmni dim er elw gyda gwerthoedd tebyg iawn i'r rhai a greodd Moelyci fel canolfan amgylcheddol yn y lle cyntaf.
"Bydd Ymddiriedolaeth Tir Cwm Harry, fel tenantiaid newydd, yn cydweithio gyda ni i greu dyfodol dichonadwy ar gyfer y fferm fel menter amgylcheddol a chanolfan addysgiadol."
Ychwanegodd Adam Kennerley, Prif Weithredwr Cwm Harry: "Bydd ein cynlluniau yn adfywio a gwella nifer o'r prosiectau sydd eisoes yn cael eu gweithredu ym Moelyci, gan gynnwys yr ardd fasnachol, y safle compostio a chefnogi datblygiad y grŵp rhandiroedd...
"Byddwn yn parhau i bori anifeiliaid ar y fferm fynydd draddodiadol hon, a bydd y cyhoedd yn parhau i gael defnyddio'r fferm a mynydd Moelyci."
Fel rhan o'r cynllun a lwyddodd i ddenu cefnogaeth y cyfranddalwyr, bydd gan Cwm Harry y dewis i brynu Moelyci. Pe bai hyn yn digwydd, mae Cwm Harry wedi cytuno y bydd rhydd-ddaliad y fferm wedi'i ddiogelu am byth fel canolfan amgylcheddol gymunedol.
Dewis arall?
Roedd nifer o gyfranddalwyr wedi gofyn a oedd dewis arall yn hytrach na chynnig Cwm Harry neu orfod gwerthu'r fferm. Dywedodd Pauline Egan: "Rydw i'n meddwl bod y cyfnod ymgynghori o chwe mis a'r cyfarfod ei hun wedi dangos fod ambell i aelod wedi methu ag amgyffred ein bod ni wedi bod yn wynebu bygythiad ariannol difrifol am gyfnod llawer rhy hir.
"Rydym ni wirioneddol yn y 'last chance saloon'- mae'n rhaid bod yn gwbl onest - ac mae gan y bwrdd ddyletswydd i wneud ei orau ar ran y mudiad, ac rydym ni wedi ymdrechu i wneud hynny."
Bydd y ddau fudiad yn cydweithio'n agos er mwyn cwblhau'r trefniadau gan obeithio lansio'r fenter newydd ym mis Medi.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2014