Llangollen: Gŵyl yn fwy sefydlog
- Cyhoeddwyd
Dywed trefnwyr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen eu bod yn credu fod yr ŵyl yn wynebu dyfodol ariannol mwy sefydlog.
Ymhlith yr atyniadau'r wythnos hon mae Bryn Terfel, Status Quo, y canwr jazz Caro Emerald a theyrnged i Nelson Mandela.
Mae'r trefnwyr yn gobeithio denu hyd at 40,000 i'r ŵyl yn sir Ddinbych.
Fe fydd 2,000 o berfformwyr o 48 o wledydd yn cystadlu yn yr ŵyl sy'n dechrau ddydd Mawrth.
Dywed y prif weithredwr David Neal fod y penderfyniad i ddenu atristiaid amlwg wedi cael dylanwad positif ar gyllid yr ŵyl, ar ôl nifer o flynyddoedd anodd.
Dywedodd fod tocynnau ar gyfer y prif gyngherddau yn gwerthu'n dda.
Ychwanegodd ei bod hi'n edrych yn debyg y byddai'r ŵyl yn osgoi dyledion eleni.
"Eleni rydym yn credu y byddwn mewn sefyllfa ariannol sefydlog yn hytrach na sefyllfa ariannol hynod dda," meddai Mr Neal, sydd wedi bod yn brif weithredwr ers blwyddyn, bellach.
"Mae'n anodd dweud yn bendant tan diwedd yr ŵyl... Ond ar y funud rydym yn dawel hyderus fod y gwaethaf o'r problemau ariannol yn y gorffennol.
Mae'r ŵyl wedi ei chynnal yn Llangollen bob blwyddyn ers 1947.
Ymhlith uchafbwyntiau'r cyngherddau mae cyngerdd Bryn Terfel a pherfformiad cyntaf Adiemus Colores, gan y cyfansoddwr Karl Jenkin
Hefydd yn Llangollen bydd perfformiad cyntaf Spirit of Hope, teyrnged i'r diweddar Nelson Mandela, gafodd ei ysgrifennu gan y cyfansoddwr Paul Mealor a'r bardd Grahame Davies. s.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2013