Ymgyrchwyr Ysbyty Aberteifi yn sicrhau adolygiad barnwrol
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i wrth-droi penderfyniad bwrdd iechyd i ddarparu llai o wlâu yn Ysbyty Aberteifi wedi derbyn caniatad i gynnal adolygiad barnwrol.
Mae cyfreithwyr ar ran yr ymgyrchwyr, sy'n cynnwys ynnwys Cynghrair Ffrindiau Ysbyty Aberteifi, wedi llwyddo i sicrhau adolygiad barnwrol llawn yn erbyn Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
Mae gwrthwynebwyr i'r cynllun yn honni na fu ymgynghoriad llawn gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda cyn y penderfyniad ym mis Rhagfyr.
Roedd y bwrdd iechyd yn dadlau eu bod nhw wedi "ystyried yn ofalus" yr anghenion ar gyfer ymgynghoriad swyddogol.
Dim ond cleifion allanol
Erbyn hyn mae cleifion sy'n aros am ofal dros nos yn gwneud hynny mewn cartrefi nyrsio yn yr ardal. Dim ond cleifion allanol sy'n cael eu trin yn Ysbyty Aberteifi ers mis Mawrth.
Cafodd deiseb ei chyflwyno i'r Cynulliad ym mis Ionawr gyda dros 11,000 o enwau arni yn gwrthwynebu. Roedd ymgyrchwyr eisiau i'r bwrdd iechyd ailystyried y penderfyniad.
Yn ogystal roedden nhw eisiau gweld gwaith yn cael ei wneud yn gynt ar y ganolfan iechyd newydd gwerth £15 miliwn sy'n cael ei adeiladu yn y dref, sy'n cynnwys meddygfa.
Yn dilyn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd, penderfynodd Mr Ustus Baker y dylai adolygiad barnwrol llawn gael ei gynnal, a hynny ym mis Hydref 2014.
Cam yn nes
Dywedodd Eirwyn Harries, cadeirydd Cynghrair Ffrindiau Ysbyty Aberteifi: "Mae'r penderfyniad i gynnal adolygiad barnwrol llawn yn mynd â ni gam yn nes at wrth-droi'r penderfyniad i gau gwlâu cleifion mewnol yn Ysbyty Aberteifi.
"Mae'r gwlâu yma'n hanfodol ar gyfer ein cymuned."
Yn ôl y cyfreithiwr Michael Imperato: "Mae hwn yn gam pwysig iawn yn yr achos a bydd adolygiad barnwrol llawn nawr yn ymchwilio proses benderfynu'r bwrdd iechyd.
"Gall yr achos hwn gael oblygiadau pwysig i'r GIG yng Nghymru oherwydd y bydd yn penderfynu ynglŷn â pha fath o newidiadau i wasanaethau y mae angen cynnal ymgynghoriad cyn eu gweithredu."
Ym mis Mai, dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda bod y penderfyniad yn "cydnabod rheidrwydd clinigol i gau'r gwelyau hyn" ac y byddai "gwelyau Aberteifi a'r ardal leol yn cael eu darparu yn y gymuned, gyda dim gwelyau'n cael eu colli yn y sir".
Ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: "Mae'r bwrdd iechyd yn parhau o'r farn ei fod wedi cydymffurfio a'i oblygiadau cyfreithiol.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llys ynglŷn â'r adolygiad barnwrol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2014
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2014