Prinder gweithwyr cymdeithasol yn effeithio gofal plant

  • Cyhoeddwyd
Plant

Mae anawsterau wrth recriwtio a chadw gweithwyr cymdeithasol profiadol yng Nghymru yn cael effaith ar blant mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal.

Dyna un o gasgliadau adroddiad gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC).

Fe wnaeth AGGCC edrych ar sut oedd cynghorau Cymru yn cyflawni eu rôl fel "rhieni corfforaethol" i blant mewn gofal a rhai sy'n gadael gofal.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod gwelliannau yn cael eu cyflwyno.

Pryderon

Daw'r adroddiad wedi achosion diweddar o ecsbloetio plant yn Lloegr, yn cynnwys Rotherham a Rochdale, ac mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar y plant a phobl ifanc mwyaf tebygol o gael eu targedu.

Er bod arolygwyr wedi dod o hyd i enghreifftiau o ymarfer da mae'r adroddiad yn codi pryderon, gan gynnwys y ffaith bod nifer o staff yn mynd a dod, a thrafferth recriwtio gofalwyr maeth.

Elfennau eraill oedd yn codi pryder oedd yr ansawdd amrywiol wrth gynllunio ar gyfer plant mewn gofal ac anghysondeb wrth baratoi a chefnogi pobl ifanc wrth iddyn nhw adael y system gofal.

Yn ôl y data mae'r nifer o blant mewn gofal yng Nghymru wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf:

  • 2,991 yn 1998

  • 4,591 yn 2004

  • 4,784 yn 2006

  • 5,755 yn 2014

  • Mae'r nifer o blant dan ofal pob un o awdurdodau Cymru yn amrywio o 67 i 684.

Ffynhonnell: Bwletin Ystadegau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

'Gweithredu ar frys'

Cafodd yr arolwg ei gynnal rhwng Ionawr a Mai 2014, gan gynnwys profiadau a barn dros 300 o blant mewn gofal a rhai oedd wedi gadael ond yn dangos nodweddion o fod yn fregus neu ymddygiad beryglus.

Mae'r adroddiad yn dweud bod angen "gweithredu ar frys" fel bod pobl ifanc yn cael help i gwrdd a'u hanghenion emosiynol a seicolegol. Mae'r rhai sy'n gadael y system gofal hefyd angen cymorth i gael llety addas er mwyn byw yn annibynnol.

Casgliad yr adroddiad ydy bod angen i asiantaethau weithio yn fwy effeithiol gyda'i gilydd.

Disgrifiad o’r llun,

Stuart Roberts

Mae Stuart Roberts, 19 oed, wedi bod mewn gofal ers iddo fod yn saith oed.

Dywed Stuart ei fod wedi cael sawl gweithiwr cymdeithasol gwahanol a bod hynny yn anodd.

"O'n nhw yn newid bob amser. Gesh i un yn dod a mynd heb dd'eud wrtha fi i job arall.

"Nesh i ffeindio allan ar ôl rhyw bythefnos."

Dywedodd bod rhywun wedi dod ato tra'r oedd o'n siopa:

"O'n i yna efo met a 'nath hi ddeud 'fi ydy support worker chdi rwan' a oedd gen i dal betha' heb eu sortio.

"Esh i mewn i gofal ar yr oed o saith ag oedd o yn reit anodd i fi. O'n i yn symud o le i le. Oedd pobl oedd yn rhoi gofal idda fi - oeddan nhw ddim yn rili gwrando ac o'n i jest ddim yn gwybod be i neud."

Mae Lowri Jones o AGGCC yn dweud bod mwy o sefydlogrwydd yn y gweithlu yn ddiweddar ond bod problem cadw gafael ar weithwyr cymdeithasol.

Dywedodd bod hyn yn golygu bod "lot o weithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda'r plant yma a bod nhw ddim yn cael y sefydlogrwydd o un cyswllt".

"Hefyd wnaethon ni ddarganfod bod y plant eisiau mwy o berthynas gyda'i gwasanaethwyr cymdeithasol ond oherwydd pwysau gwaith arnyn nhw bod e ddim yn bosib iddyn nhw wario gymaint o amser â fydden nhw yn hoffi gyda phlant a phobl ifanc."

'Datrysiadau gwell'

Gobaith AGGCC ydy y bydd yr adroddiad yn cael ei fwydo i mewn i Ddeddf Gwasanaeth Cymdeithasol a Llesiant Llywodraeth Cymru sydd yn dod i rym flwyddyn nesaf.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru bod pob cyngor yng Nghymru "wedi ymrwymo i gyrraedd y safonau uchaf i blant yn eu gofal" a bod camau wedi eu cymryd i alluogi i blant werthuso'r gofal y maen nhw'n ei dderbyn.

Ychwanegodd: "Bydd argymhellion yr adroddiad yn cael eu defnyddio i ddatblygu datrysiadau gwell a mwy cynaliadwy i blant a phobl ifanc yng Nghymru."