Dim ymgynghori cyn gwrthod cais 007
- Cyhoeddwyd
Ni chafodd grŵp o ACau sy'n goruchwylio busnes yn y Cynulliad eu hymgynghori cyn i gais gan wneuthurwyr y ffilm James Bond newydd i ffilmio yn siambr y Senedd gael ei wrthod, yn ôl un aelod o'r grŵp.
Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Peter Black, nad oedd y penderfyniad i wrthod y cais wedi'i drafod gan Gomisiwn y Cynulliad.
Mi wnaeth Mr Black, sy'n aelod o'r Comisiwn, ynghyd â chyn-Lywydd y Cynulliad yr Arglwydd Elis-Thomas, feirniadu'r penderfyniad.
Dywedodd Mr Black wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: "Pe bai rhywun wedi gofyn i mi, a phe bawn i'n gwneud y penderfyniad, byddwn i wedi caniatau'r cais. Mae hwn yn gynhyrchiad eiconaidd.
"Hyd y gwn i, ni chafwyd ymgynghoriad gyda'r Comisiwn ynglŷn â'r penderfyniad."
Dywedodd AC Plaid Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas: "Rydw i'n siomedig na fydd lleoliad mwyaf eiconaidd Cymru ar gael ar gyfer un o'r ffilmiau sy'n cael ei adnabod orau ar draws y byd".
Mae'r Comisiwn yn grŵp o bump o ACau trawsbleidiol sy'n cynnwys Llywydd y Cynulliad. Mae'r Comisiwn yn gyfrifol am eiddo a gweithwyr y Cynulliad, a'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar gyfer ACau.
Mae'r Cynulliad wedi dweud bod penderfyniadau ar geisiadau i ffilmio yn eu hadeiladau yn cael eu gwneud ar sail y ceisiadau unigol a'u bod wedi gweithio gyda rhai cynyrchiadau, gan gynnwys Sherlock a Dr Who.
Ychwanegodd llefarydd: "Cafodd y cais gan James Bond i ddefnyddio'r Siambr ei wrthod ac fe gawson nhw gynnig i ddefnyddio lleoliadau eraill ar yr ystâd, ond fe gafodd y cynnig ei wrthod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2015