Rosemary Butler yn gwrthod Bond

  • Cyhoeddwyd
BondFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Yr actor Daniel Craig yn ffilmio ar gyfer ffilm James Bond yn Rhufain ym mis Chwefror

Cafodd y penderfyniad i wrthod cais cynhyrchwyr ffilm ddiweddaraf James Bond i ffilmio yn siambr y Senedd ei wneud gan Lywydd y Cynulliad.

Y Fonesig Rosemary Butler, gyda chyngor swyddogion, oedd yn gyfrifol am wrthod y cais, yn ôl llefarydd ar ran y Cynulliad.

Yn ôl y Fonesig Butler, roedd gormod o risg y byddai ffilmio yn y siambr yn tarfu ar waith y Cynulliad.

Ddydd Sul fe ddaeth yn amlwg nad oedd corff swyddogol y Cynulliad, Comisiwn y Cynulliad, wedi trafod y cais gan y cynhyrchwyr cyn i'r penderfyniad gael ei wneud.

Dywedodd un o aelodau'r Comisiwn, Peter Black AC, y byddai wedi gadael i'r cwmni ffilmio yn y siambr.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd y Fonesig Rosemary Butler ei bod yn cydnabod fod "llawer o feirniadaeth" wedi bod i'r penderfyniad i wrthod cais y cwmni ffilmio.

Ond dywedodd: "Wrth bwyso a mesur, roedd y risg i'r Siambr a'r potensial o darfu ar fusnes yn rhy fawr."

Ychwanegodd: "Rwy'n cadw at fy mhenderfyniad. Cyfrifoldeb Llywydd y Cynulliad ydi i gymryd penderfyniadau ystyriol a chytbwys, wedi pwyso a mesur y ffactorau perthnasol, a dyna'r hyn a wnes i."