'Cynnydd rhesymol' wrth gyflwyno band eang
- Cyhoeddwyd
Mae'r archwiliwr cyffredinol wedi dweud bod "cynnydd rhesymol" wedi'i wneud wrth gyflwyno band eang cyflym ar draws Cymru.
Yn 2012 mi wnaeth llywodraeth Cymru arwyddo cytundeb gyda BT, oedd yn cael ei gefnogi gan £205m o arian cyhoeddus, er mwyn darparu gwasanaeth band eang i 700,000 o gartrefi a busnesau, ble nad oedden nhw'n bwriadu cyflwyno'r gwasanaeth hwnnw.
Mae Archwiliwr Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, am i lywodraeth Cymru wneud mwy i ddweud wrth bobl am y cynllun.
Dywed llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl y bydd y cynllun wedi'i gyflawni erbyn diwedd 2016.
Mae'r adroddiad gan Mr Thomas yn dweud bod gwasanaeth band eang ar gael i ychydig dros hanner y niferoedd oedd yn cael eu targedu erbyn diwedd 2014, ond bod nifer o ardaloedd anghysbell yn parhau heb gysylltiad.
Yn ogystal roedd yr adroddiad yn nodi bod gwendidau gwreiddiol yn y cynllun a'r ffordd roedd yn cael ei reoli gan lywodraeth Cymru, ond bod "trefniadau addas ac eglur bellach wedi eu cyflwyno."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd18 Awst 2014
- Cyhoeddwyd7 Awst 2014
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2014