Priodi o'r diwedd i ferch o Lanuwchllyn
- Cyhoeddwyd
Mae cwpwl fethodd â phriodi yng Nghymru 'nôl yn yr haf oherwydd problemau fisa bellach wedi priodi yn Iwerddon.
Roedd Lliwen Roberts, 28 oed, o Lanuwchllyn yn gobeithio priodi ei chariad Gareth MacRae, 30 oed o Seland Newydd, ym mis Gorffennaf, ond gwrthododd yr awdurdodau yr hawl i Mr MacRae gael aros yn y wlad.
Er mwyn iddyn nhw allu byw gyda'i gilydd, penderfynodd y ddau symud i Tipperary yn Iwerddon, ar ôl i Gareth gael fisa yno.
Priododd y ddau mewn seremoni dawel yn nhre Nenagh yn Tipperary ar 9 Hydref.
Cyhoeddodd Lliwen Gwyn MacRae'r newyddion da ar Facebook a diolchodd am bob cefnogaeth y maen nhw wedi ei gael dros y misoedd diwethaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2015
- Cyhoeddwyd8 Mai 2015