Comisiynydd: Plant sy'n derbyn gofal 'angen blaenoriaeth'

  • Cyhoeddwyd
Sally Holland

Mae angen i Gymru roi blaenoriaeth i blant sy'n derbyn gofal, medd y Comisiynydd Plant.

Dywedodd yr Athro Sally Holland bod "dyletswydd" ar bobl i "gymryd o ddifri" eu cyfrifoldeb am y plant yma.

Daeth yr alwad yn ei hadroddiad blynyddol cyntaf fel comisiynydd ers ei phenodi yn gynharach eleni.

Ychwanegodd bod angen i'r rheiny sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau i blant mewn gofal sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu diwallu.

Os nad yw hyn yn digwydd, mae'r comisiynydd yn pryderu na fydd hi'n bosib iddyn nhw gyflawni eu potensial.

'Dyletswydd'

"Rhaid i ni gymryd o ddifri ein cyfrifoldeb ar y cyd am blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal," meddai'r comisiynydd.

"Rhaid i ni ofalu amdanyn nhw a rhoi iddyn nhw lawn cymaint o gyfle mewn bywyd ag y bydden ni am ei roi i'n plant ein hunain. Dyna eu hawl nhw a'n dyletswydd ni."

Does "dim synnwyr" buddsoddi i gefnogi pobl ifanc yn y system ofal os "byddwn yn methu ymateb i'w hanghenion yn y cyfnod olaf un", meddai.

Dyma'r adeg "pan fo fwyaf o angen ein cefnogaeth arnyn nhw i gyflawni eu hamcanion," ychwanegodd.

Cartrefi gofal

Mae'r Athro Sally Holland hefyd yn galw am ganiatáu i bobl ifanc gael aros mewn cartrefi gofal preswyl ar ôl cyrraedd 18 os ydyn nhw'n dymuno hynny.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr ymrwymiad hwn i bobl ifanc mewn gofal maeth yn barod.

Er bod gwasanaethau'n wynebu cyfnod anodd o ganlyniad i doriadau, mater o flaenoriaethu ydi hyn, yn ôl y comisiynydd.

"Roedd 700 o bobl ifanc yn gadael gofal eleni felly dydyn ni ddim yn sôn am nifer aruthrol," meddai.

"Mae'r gefnogaeth hon yn fuddsoddiad yn ein dyfodol, ac gallwn ni ddim fforddio gwastraffu'r potensial yma"

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym ni'n archwilio'r materion a godwyd gan y comisiynydd ac yn edrych ar ddysgu o brofiadau yn Yr Alban a Lloegr er mwyn ystyried yn ofalus y materion ymarferol ac ariannol a godwyd."