Gwasanaethau canser: Galw am ddiwedd i 'loteri cod post'
- Cyhoeddwyd
Bydd digwyddiad arloesol yn cael ei gynnal ym Mae Caerdydd ddydd Mawrth, gyda'r trefnwyr eisiau tynnu sylw at yr hyn maen nhw'n ei ddisgrifio fel 'loteri côd post' gwasanaethau canser.
Cynhadledd LLEISIAU yw'r gyntaf o'i bath yng Nghymru a bydd 40 o gleifion, sydd â 28 gwahanol fath o ganser, yn trafod ag ACau am eu pryderon fod y math o wasanaethau sydd ar gael i gleifion yn dibynnu ar lle maen nhw'n byw.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu'n gyfan gwbl gan gleifion, rhai ohonyn nhw'n derbyn triniaeth ar hyn o bryd.
Ymhlith y siaradwyr fydd trefnydd LLEISIAU, Annie Mulholland a'r cyd ymgyrchydd canser, Irfon Williams, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Canser De Cymru Dr Tom Crosby, ac Annwen Jones, Prif Weithredwr Target Ovarian Cancer.
Nod y digwyddiad, medd y trefnwyr, yw tynnu sylw at brofiadau cleifion canser a herio gwneuthurwyr polisi i wella'r cyfraddau o ran nifer y cleifion sy'n gwella o ganser.
Yn ogystal, bydd cynrychiolwyr iechyd o'r pedair prif blaid yn rhan o sesiwn holi ac ateb dan arweiniad y Farwnes Delyth Morgan, Prif Weithredwr Breast Cancer Now.
'Loteri cod post'
Cafodd y trefnydd a'r ymgyrchydd Annie Mulholland ddiagnosis o ganser ofarïaidd ym mis Mawrth 2011, a bu'n rhaid iddi ddefnyddio ail gyfeiriad yn Lloegr er mwyn cael mynediad at gyffur (Avastin) i drin canser ofarïaidd.
Yn siarad cyn y gynhadledd, dywedodd: "Mae'n gwbl annerbyniol nad ydyn ni'n cael gofal cyfartal yng Nghymru, ac mae cleifion canser yn dod ynghyd i gymharu profiadau.
"Mae'n hanfodol bod cleifion sydd wedi cael gwybod bod ganddyn nhw ganser nad oes modd gwella ohono'n cael yr opsiynau triniaeth gorau o fewn cyllid sy'n edrych ar holl agweddau canser.
"Ond ar hyn o bryd, mae cleifion fel fi'n wynebu loteri côd post, pan fo penderfyniadau am eu gofal yn cael eu penderfynu ar sail ble maen nhw'n digwydd byw.
"Rydyn ni'n galw ar wneuthurwyr polisi i sicrhau fod gennym system iechyd dryloyw lle mae cleifion canser yn rhan o'r broses o drefnu a darparu'r gwasanaeth."
Profiadau cleifion
Bu'n rhaid i Irfon Williams symud ei driniaeth i Loegr am nad oedd y cyffur yr oedd ei angen, cetuximab, ar gael iddo ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae bellach yn rhydd o ganser ac yn galw am newid y drefn yng Nghymru, fel nad oes yn rhaid i gleifion eraill wneud yr un fath ag o a chroesi'r ffin am driniaeth.
Dywedodd wrth BBC Cymru Fyw: "Dwi'n teimlo'n gryf bod angen i wleidyddion a staff y gwasanaeth iechyd wrando ar brofiadau pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, neu sydd wedi'i ddefnyddio.
"Mi ddylai pobl sy' wedi ei ddefnyddio allu cael dylanwad neu fod modd dysgu o'u profiadau nhw.
"Mae'n bwysig hefyd cofio bod 'na brofiadau da, bod y gofal sy'n cael ei gynnig yn yr ysbytai gan y timau ar lawr gwlad yn gallu bod yn dda iawn.
"Ond, wrth gwrs, dydy'r adnoddau i gyd ddim ar gael i'r staff yna fedru cynnig y gwasanaethau sy' ar gael mewn llefydd eraill."
'Profiad positif'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser, er bod cynnydd o 11.5% yn nifer y rhai sy'n cael diagnosis o'i gymharu â 10 mlynedd yn ôl".
"Rydyn ni hefyd yn gwybod fod mwyafrif clir o bobl yn cael profiad positif o ran gofal canser yma," meddai.
"Mae gennym record o sicrhau fod pobl yng Nghymru'n cael mynediad at driniaethau effeithiol sydd wedi'u profi ar gyfer pob math o gyflyrau, nid dim ond canser.
"Mae ymchwil wedi dangos fod pobl yng Nghymru'n cael mynediad cyflymach at gyffuriau canser newydd sydd wedi'u cymeradwyo gan NICE o'i gymharu â phobl sy'n byw yn Lloegr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2015