Ffordd greadigol o ddysgu
- Cyhoeddwyd
Dros y tridiau nesaf bydd digwyddiadau arbennig yn cael eu cynnal ledled Cymru i ddathlu celfyddydau, diwylliant a chreadigrwydd yng Nghymru drwy gynllun Cer i Greu ar y cyd rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Yn sgil yr ymgyrch, mae Cymru Fyw wedi mynd ati i edrych ar yr hyn sy'n cael ei wneud i hybu creadigrwydd plant yn ein hysgolion llai cyfarwydd:
Cyfyngu cyfleoedd?
Y llynedd, dechreuodd Llywodraeth Cymru ymgyrch pum mlynedd gwerth £20 miliwn o'r enw 'Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau' ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru'.
Dyma oedd ymateb y llywodraeth i adolygiad annibynnol yr Athro Dai Smith yn 2013 - "Y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru". Roedd yr adroddiad yn awgrymu bod y pwyslais ar wella llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion yn "cyfyngu ar gyfleoedd pobl ifanc i fod yn rhan o weithgareddau creadigol".
Y Cyngor Celfyddydau sy'n gyfrifol am roi'r cynllun ar waith, ac un o'r prif amcanion yw "gwella cyrhaeddiad trwy greadigrwydd".
Hyd yn oed tu hwnt i'r cynllun yma, mae'n ymddangos fod newid technolegol ar dro yn ein hysgolion hefyd.
Ar draul y bwriad i gyflwyno'r grefft o godio i'r system addysg, mae gan y BBC gynllun newydd i annog pobl ifanc i fod yn greadigol gyda thechnoleg.
Yn dilyn cyhoeddiad mis diwethaf, bydd disgyblion ysgol yng Nghymru ymhlith miliwn o blant fydd yn derbyn cyfrifiaduron bach arbennig.
Mae'r BBC micro:bit yn gyfrifiadur maint poced ac mae modd i ddisgyblion ei godio a'i raglennu ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau, gan gynnwys creu gemau, creu watshis neu declyn ffitrwydd.
Dywedodd Allen Heard, pennaeth Technoleg Gwybodaeth yn Ysgol Bryn Elian, fod y micro:bit yn helpu plant i ddod yn "ddysgwyr cryfach oherwydd maen nhw'n fwy tebygol o ddatrys problemau ar eu liwt eu hunain yn hytrach na gofyn i rywun am yr ateb".
Dulliau Montessori
Mae'r pwyslais yma ar hybu plant i fod yn fwy annibynnol yn un o gonglfeini meithrinfa Toad Hall yn ardal Ystum Taf yng Nghaerdydd.
Sandy Clayton yw perchennog a phennaeth y feithrinfa, sy'n mabwysiadu dulliau Montessori, dolen allanol o ddysgu.
"Mae gan ein plant ni lefelau uchel o annibyniaeth, ffyniant, cyfathrebu a chreadigrwydd anhygoel," eglurai Ms Clayton.
"Dy'n ni'n trio osgoi profion ac yn hytrach yn ceisio hybu synnwyr naturiol o chwilfrydedd a chreadigrwydd.
"Fel mae'r plant yn mynd i ysgolion cynradd ac uwchradd, mae amryw yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n gallu dweud yn syth mai cyn-aelodau o Toad Hall ydyn nhw. Mae hynny'n gwneud ni'n falch iawn."
Ychwanegodd Sandy Clayton fod ysgolion sy'n defnyddio dulliau Montessori yn "cynnig rhywbeth gwahanol" i ysgolion prif ffrwd (mainstream).
Safbwyntiau Steiner
Mae'r camau mae'r llywodraeth wedi'u cymryd i roi mwy o bwyslais ar greadigrwydd yn yr ysgolion yn rhywbeth i'w groesawu yn ôl Brigid Bowen, un o ymddiriedolwyr Ysgol Steiner Caerdydd.
Y prif wahaniaethau rhwng ysgol brif ffrwd ac ysgol Steiner, meddai, yw bod yna oedi ar ddysgu "ffurfiol" tan fod y plentyn yn saith oed. "Chwarae sy'n cael ei weld fel gwir waith plentyn ifanc tan hynny," meddai Ms Bowen.
Dyw cyfrifiaduron ddim yn cael eu cyflwyno tan yn hwyrach mewn ysgol Steiner, ac fe all plentyn gael yr un athro neu athrawes am hyd at wyth mlynedd.
"Mae'r pwyslais diweddar ar bwysigrwydd celfyddydau mynegol (expressive arts) yn addysg Cymru yn galonogol iawn ac mae'n edrych fod camau yn cael eu cymryd i wneud ein ysgolion ni'n fwy creadigol," meddai.
"Mewn ysgolion Steiner, mae'r pwyslais ar gelfyddyd ac ar greadigrwydd er mwyn hybu dysgu a gwella cof ein plant - bydde'n wych os byddai gweddill plant Cymru yn cael y cyfle i brofiadu addysg mwy eangfrydig."
Am fwy o wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cael eu cynnal ym mhob ardal rhwng 1-3 Ebrill, ewch i wefan Cer i Greu. Cofiwch hefyd ddefnyddio #BBCCeriGreu ar Twitter.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2013