Nathan Gill yn barod i gefnogi Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carwyn a Gill

Mae arweinydd UKIP Cymru, Nathan Gill wedi cadarnhau y gallai fod yn barod i gefnogi Carwyn Jones fel y Prif Weinidog yn y Cynulliad.

Roedd y bleidlais i ddewis Prif Weinidog ddydd Mercher yn gyfartal, gyda'r grŵp Llafur a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol, Kirsty Williams yn cefnogi Mr Jones, a'r Ceidwadwyr, Plaid Cymru a saith aelod cynulliad UKIP yn cefnogi arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Dywedodd Mr Gill: "Byddwn ni'n cefnogi Carwyn Jones os allwn ni gael peth o'n maniffesto yn gyfraith.

"Rydyn ni wedi dweud erioed ein bod yn barod i weithio gydag unrhyw blaid. Wnaethon ni ddim diystyru unrhyw un."

Ychwanegodd: "Y peth cyntaf bydde' ni eisiau ei weld yw'r tollau ar bontydd Hafren yn cael eu diddymu."

Ond er hynny, yn siarad ar raglen Good Evening Wales ar BBC Radio Wales, dywedodd Mr Gill y byddai'n "barod" am etholiad arall ar 23 Mehefin os nad oedd cytundeb.

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones wedi iddo beidio cael ei ail ethol yn Brif Weinidog

Roedd disgwyl i Mr Jones gael ei ail ethol yn Brif Weinidog ar lywodraeth leiafrifol yn sesiwn gynta'r Senedd newydd yn y Cynulliad.

Ond bu'n rhaid gohirio'r cyfarfod ar ôl pleidlais gyfartal o 29 yr un.

Mae'r trafodaethau'n parhau rhwng y pleidiau ym Mae Caerdydd ar y mater, a does dim disgwyl pleidlais arall oni bai fod arwyddion y bydd canlyniad gwahanol.

Os na ddaw cytundeb erbyn 1 Mehefin, gall Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, alw etholiad newydd.

Yn y cyfamser, mae Mr Jones yn parhau'n Brif Weinidog.

Trafod

Ar raglen y Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru, fe wnaeth AC Llafur Blaenau Gwent fynnu nad oedd "cytundeb cudd" gyda Kirsty Williams o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd Alun Davies: "Bydden i'n croesawu gweld Kirsty yn chwarae rhan mewn llywodraeth neu gefnogi'r llywodraeth."

Mae Llafur wedi cyhuddo Plaid Cymru o daro bargen gyda'r Ceidwadwyr Cymreig ac UKIP, ond mae'r blaid yn gwadu hynny.

Dywedodd yr AC Ceidwadol, Paul Davies nad oedd cytundeb rhwng Plaid Cymru a'r gwrthbleidiau eraill cyn iddyn nhw bleidleisio dros Leanne Wood i fod yn Brif Weinidog.

"Beth oedden ni am ei ddangos ddoe, oedd nad oes gan y blaid Lafur rhyw hawl ddwyfol i lywodraethu," meddai'r aelod dros Breseli Penfro.

Fe wnaeth Simon Thomas o Blaid Cymru hefyd wfftio honiadau bod cytundeb rhwng ei blaid a'r Torïaid.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Kirsty Williams wedi dweud nad oes ganddi unrhyw fath o gytundeb â Llafur

Mae cyn-arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Ms Williams wedi dweud nad oes ganddi unrhyw gytundeb gyda'r Blaid Lafur i atal Ms Wood rhag dod yn Brif Weinidog.

"Roedd fy mhenderfyniad wedi'i wneud ar realiti canlyniad yr etholiad," meddai.

Pan ofynnwyd a oedd Llafur wedi cynnig safle yn y cabinet iddi, ychwanegodd: "Na, fe wnes i gwrdd â Carwyn Jones, fel y gwnes i gwrdd â Leanne Wood ac Andrew RT Davies."