Angen i Nathan Gill ymrwymo i un swydd medd Hamilton
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd UKIP yn y Cynulliad wedi dweud na ddylai Nathan Gill wneud dwy swydd fel aelod y Cynulliad ag Aelod Seneddol Ewropeaidd os nad yw'n gallu ymrwymo'n llawn i'w swydd ym Mae Caerdydd.
Mae ffrae wedi datblygu ar ôl i Nathan Gill feirniadu Neil Hamilton am gynnig cefnogaeth i gynlluniau i adeiladu rhan newydd o ffordd yr M4 ger Casnewydd.
Roedd Mr Gill wedi gwadu mai dyma oedd safbwynt grŵp UKIP yn y Cynulliad, ond dywedodd Mr Hamilton fod Mr Gill yn hwyr i'r cyfarfod pan gafodd y penderfyniad ei wneud.
Yn y cyfamser mae UKIP wedi clustnodi swyddi llefarwyr i bob un o'i ACau - heblaw am Mr Gill.
Daeth Mr Hamilton yn arweinydd y grŵp ym mis Mai, er mai Mr Gill oedd arweinydd y blaid yng Nghymru ar y pryd ac mae'n parhau yn y rôl hyd heddiw. Roedd Mr Gill wedi dweud yn y gorffenol y byddai'n rhoi gorau i'w swydd fel Aelod Seneddol Ewropeaidd.
"Mae aelodau UKIP yn disgwyl i bob AC UKIP i ymrwymo'n llawn i'w swyddi yn y Cynulliad ag i chwarae rhan mewn tîm", meddai Mr Hamilton.
"Os nad yw Nathan yn gallu derbyn hyn, fe ddylai gyflawni ei ddyletswyddau i bwyllgor gweithredol cenedlaethol UKIP ag i Nigel Farage pan ddywedodd fis Ionawr diwethaf na fyddai'n gwneud dwy swydd."
Ychwanegodd yr AC dros ganolbarth a gorllewin Cymru: "Mae Nathan Gill yn AC rhan amser ar y funud gan nad ydi wedi ymddiswyddo o'i swydd fel Aelod Seneddol Ewropeaidd ym Mrwsel a Strasbourg.
"Fe gyrhaeddodd yn hwyr i'n cyfarfod grŵp ddoe, pan roedd bron ar ben, felly fe fethodd ein trafodaeth ar yr M4.
"Dyw e heb leisio ei anfodlonrwydd i mi ar unrhyw bryd."
Wrth ymateb i honiad Neil Hamilton ei fod yn cyflawni dwy swydd, gofynnodd Nathan Gill: "Pa dystiolaeth sydd ganddo i ddweud fy mod yn AC rhan amser?
"Rwyf wedi fy ymrwymo'n llwyr i fy holl swyddi ac rwyf yn gwneud popeth yr wyf i fod i'w wneud."
Cynllun yr M4
Yn gynharach dywedodd Nathan Gill, sydd yn arweinydd UKIP yng Nghymru, na ddylai ei blaid roi "gobaith camarweiniol" i brif weinidog Cymru dros gynlluniau i adeiladu rhan newydd o ffordd yr M4 ger Casnewydd.
Dywedodd nad oedd cynnig Neil Hamilton, arweinydd grŵp UKIP yn y Cynulliad, i gefnogi dewis cyntaf Carwyn Jones ar gyfer llwybr newydd i'r draffordd yn adlewyrchu safbwynt y grŵp.
Ychwanegodd Mr Gill y dylai UKIP lynu at addewid maniffesto'r blaid i gefnogi'r llwybr glas yn hytrach na'r un du. Mae cefnogwyr y llwybr glas yn dadlau ei fod yn llawer rhatach ac yn llai niweidiol i'r amgylchedd na datblygu'r llwybr du newydd.
Mae Llywodraeth Cymru'n ffafrio'r llwybr du ar gost o £1.1bn, ond mae Plaid Cymru, yr Ysgrifennydd Addysg o'r Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, a rhai ACau Llafur yn gwrthwynebu.
Dywedodd maniffesto etholiad y Cynulliad UKIP nad oedd yn cytuno gyda chynllun y llwybr du "o achos y gost ormodol o £1bn a mwy". Roedd y ddogfen yn nodi y byddai'r blaid yn cefnogi'r llwybr glas fyddai'n golygu gwneud gwelliannau i rai o'r ffyrdd presennol drwy Gasnewydd.
Dywedodd Mr Hamilton yn y Senedd ddydd Mercher y gallai ei blaid newid eu safbwynt drwy gefnogi'r llwybr du gan ei fod yn "well na dim llwybr".
Ddydd Iau, dywedodd Mr Gill, sydd yn AC dros ranbarth gogledd Cymru ac yn Aelod Seneddol Ewropeaidd wrth BBC Cymru: "Dyw rhoi gobaith camarweiniol i Carwyn ei fod yn mynd i gael y llwybr du ddim y peth cywir i'w wneud.
"Rydym yn cefnogi'r llwybr glas. Dyna safbwynt ein maniffesto. Dyna safbwynt UKIP Cymru.
"Mae gennym ni gangen gref yng Nghasnewydd ac rydym yn gwybod gan yr aelodaeth fod y mwyafrif llethol o bobl Casnewydd yn cefnogi'r llwybr glas."
Ychwanegodd: "Fe ddylai Mr Hamilton fod wedi trafod hyn gyda'r grŵp cyn gwneud y datganiad."
Dywedodd bod angen i UKIP fod yn "gadarn a chryf am wneud y llywodraeth yn atebol, gan wneud iddyn nhw ddeall fod pobl yn cefnogi'r llwybr glas.
"Mae'r llwybr glas yn rhatach, yn gynt ac fe fydd yn amharu llai," ychwanegodd.
Pan ofynnwyd iddo os oedd sylwadau Mr Hamilton yn adlewyrchu safbwynt y grŵp, dywedodd Mr Gill: "Na".
Ychwanegodd llefarydd ar ran Mr Gill yn ddiweddarach: "Mae gan Nathan fandad etholiadol gan bobl Cymru ac mae wedi canolbwyntio ar refferendwm Ewrop cyn i unrhyw benderfyniad gael ei wneud.
"Mae Nathan wedi bod yn bresenol ymhob cyfarfod sydd wedi digwydd yn y Cynulliad ers iddo gael ei ethol.
"Roedd ei sylwadau am lwybr yr M4 yn ffordd o gyflawni ei addewidion maniffesto a'i ymrwymiad i'r A55 yng ngogledd Cymru."