Gweithwyr yn pleidleisio ar gynnig pensiwn newydd Tata
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd gweithwyr Tata yn cynnal pleidlais ar gynnig pensiwn newydd ddydd Llun.
Mae'r tri undeb ar safleoedd y cwmni yn y DU yn awgrymu i'w haelodau, gan gynnwys 6,300 o weithwyr yng Nghymru, dderbyn y cynnig.
Y cynnig yw'r "unig ffordd gredadwy ac ymarferol i sicrhau'r dyfodol", meddai'r undebau.
Er ei fod yn gynllun pensiwn llai hael, mae cynnig Tata hefyd yn cynnwys addewid o fuddsoddiad gwerth £1bn ym Mhort Talbot, a dim diswyddiadau gorfodol.
Mae disgwyl canlyniad pleidlais undebau Community, GMB ac Unite erbyn canol mis Chwefror.
Manylion y cynnig
Mae'r cynlluniau newydd yn golygu na fydd cyfanswm Tata at y pensiwn yn fwy na 10%, ac ni fydd hawl gan y gweithwyr gyfrannu mwy na 6%.
Roedd y cynnig gwreiddiol yn cynnwys cynllun pensiwn newydd gyda chyfraniadau o 3% yn unig gan Tata a 3% gan y gweithwyr.
Mae BBC Cymru yn deall hefyd y gallai cyfraniad pensiwn o hyd at £10,000 gael ei gynnig i weithwyr Tata sydd dros 50 oed ac yn bwriadu ymddeol yn gynnar.