Pwy oedd Meibion Glyndŵr?

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Cafodd Bryn Fôn ei ryddhau yn ddi-gyhuddiad ar ôl cael ei arestio yn 1990

Bu'r ugeinfed ganrif yn gyfnod o brotestio ac o weithredu yng Nghymru. Mae un yn meddwl am ymgyrch di-drais Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i gael arwyddion ffyrdd dwyieithog, cyfraniad Mudiad Amddiffyn Cymru yn Nhryweryn, ac am safiad 'Y Tri yn Llŷn' a llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth.

Ond o bosib y bennod fwyaf dadleuol, a'r un sy'n parhau'n ddirgelwch hyd heddiw, ydy'r 'ymgyrch' i losgi tai haf.

Rhwng 1979 a 1993, cafodd bron i 300 o danau eu cynnau yng Nghymru ac mewn mannau yn Lloegr yn enw Meibion Glyndŵr.

Tai haf oedd y targedau yn amlach na pheidio, a mewnfudwyr - y rhai oedd yn gallu fforddio tai oedd tu hwnt i gyrraedd y Cymry Cymraeg lleol - oedd y gelynion.

Ond dim ond un gafodd ei garcharu mewn cysylltiad â'r ymgyrch. Cafwyd Siôn Aubrey Roberts yn euog o anfon dyfais ffrwydrol trwy'r post a'i garcharu am 12 mlynedd yn 1993.

Ond beth am y gweddill? Pwy oedd Meibion Glyndŵr a pham na chafodd mwy eu dal a'u herlyn?

Disgrifiad,

Barn rhai gafodd eu heffeithio a phobl leol ar y tanau

Mae papurau cyfrinachol o gyfnod yr ymgyrch llosgi tai haf wedi dod i law rhaglen materion cyfoes BBC Radio Cymru, Manylu.

Ymhlith pethau eraill, maen nhw'n dangos fod y Swyddfa Gartref yn pryderu am agwedd heddluoedd Cymru tuag at genedlaetholwyr ac yn ofni bod cydymdeimlad tuag at amcanion y llosgwyr yn amharu ar ymchwiliadau'r plismyn.

Yn y dogfennau, mae 'na gyfeirio hefyd at arestio'r actor a'r canwr Bryn Fôn ym 1990 - un o benodau mwyaf cofiadwy'r cyfnod.

Maen nhw'n dangos fod heddlu'r gogledd yn poeni - pe bai rhywun â phroffil fel hyn yn gysylltiedig â'r ymgyrch - y byddai 'na bobl eraill yn ymateb drwy osod dyfeisiadau mewn protest:

Yn ôl Bryn Fôn, a gafodd ei ryddhau yn ddiweddarach yn ddi-gyhuddiad, roedd plismyn yn gwbl ddi-glem am gyfeiriad eu hymholiadau pan gafodd ei arestio a'i hebrwng i orsaf yr heddlu yn Nolgellau.

"Yn sicr dyna oedd y teimlad mwyaf," meddai. "'A', doedd ganddyn nhw ddim syniad go iawn be' oeddan nhw'n ei 'neud a 'B': 'plîs allith o fod yn rhywbeth i 'neud efo chdi' a 'plîs nei di dd'eud wrtho ni reit handi mai chdi oedd o, fel arall 'da ni ddim yn gwybod be' i 'neud'.

"Yn y bôn, ymbalfalu oeddan nhw a gobeithio mod i'n mynd i wanio a deud 'fi nath'.

"Roedd o 'chydig bach yn chwerthinllyd," meddai. "Roedd rhywun yn mynd o fod yn chwerthin am eu pennau nhw ac wedyn yn sylweddoli os ydyn nhw wir yn trio fy fframio i dwi'n wynebu 12 mlynadd neu mwy o garchar yn fan hyn am rwbath dwi ddim wedi'i 'neud - ac wedyn roedd rhywun yn gorfod difrifoli."

Mwy ar Meibion Glyndŵr

Mae un llythyr o 1990 yn dweud fod Prif Gwnstabl heddlu'r gogledd wedi bod yn derbyn gohebiaeth di-enw - cardiau pen-blwydd yn amlach na pheidio - yn gwneud honiadau am unigolion o fewn y byd cerddoriaeth ac actio yng Nghymru oedd yn gysylltiedig â'r ymgyrch tai haf.

Doedd Bryn Fôn ddim yn ymwybodol o fodolaeth y cardiau yma tan i raglen Manylu ddangos y wybodaeth iddo fo.

"Be' ddywedwyd wrthof i oedd bod nhw 'di cael llythyr neu alwad gan 'reliable source fruitful in the past' - rhywun oedden nhw yn gallu ei drystio," meddai. "O le oedd y tip-off wedi dod dwi ddim yn gw'bod.

Disgrifiad,

Adroddiad newyddion wedi i'r actor a'r canwr Bryn Fôn gael ei arestio

"Dwi'n gw'bod hefyd bod fy nghyd-actor John Pierce Jones wedi cael ei alw mewn rai misoedd wedyn yn gofyn iddo fo edrych ar 'sgrifen rhywun ella oedd yn y busnes yma - gan feddwl ella y basa fo yn gallu 'nabod y 'sgrifen."

Mae dogfen gan y Swyddfa Gartref o 1982 - sydd ag un enw wedi ei ddileu - yn poeni nad oedd yr heddlu yn gyffredinol yn gallu gwahaniaethu rhwng cenedlaetholwyr dilys a'r eithafwyr:

Roedd cyn aelod seneddol Ynys Môn, y Ceidwadwr Keith Best, yn ysgrifennydd seneddol preifat yn y Swyddfa Gymreig rhwng 1981 a 1984.

"Dwi'n credu ei bod hi'n anodd i'r heddlu - a rhai gwleidyddion yn arbennig - i wahaniaethu rhwng y gwahanol grwpiau ar y pryd," meddai Mr Best.

"Roedd 'na Fudiad Amddiffyn Cymru a Chymdeithas yr Iaith ac roedd nifer yn tueddu i gysylltu'r grwpiau yma efo Meibion Glyndŵr pan roedd eu hamcanion yn wahanol - a nifer ddim yn awyddus i ddilyn llwybr trais."

Cydymdeimlad

Pryder arall sy'n codi mewn llythyrau rhwng y Swyddfa Gartref a'r Swyddfa Gymreig ydy cydymdeimlad y Cymry tuag at amcanion Meibion Glyndŵr a bod hynny yn llesteirio gwaith yr heddlu.

Mae 'na enwau a geiriau wedi eu dileu o'r ddogfen sydd wedi ei rhyddhau.

"A good deal of intelligence had been obtained about the type of people involved in the attacks-- but there were no leads at the moment likely to bring about early prosecutions. --added that part of the police problem was obtaining intelligence, partly because of language difficulties and partly because there was some sympathy at present within the native Welsh community for those who sought to preserve the Welsh culture and language."

Disgrifiad o’r llun,

Copi o lythyr cyfrinachol yn dangos llawer o'r ohebiaeth wedi'i dduo

Mae Dafydd Iwan - a fuodd yn gadeirydd ac yn is-lywydd Plaid Cymru yn yr wythdegau - yn cydnabod fod 'na gefnogaeth i'r ymgyrch losgi.

"Waeth inni heb a gwadu - mi roedd 'na gydymdeimlad ac mae 'na gydymdeimlad oherwydd bod pobl yn gwybod fod pentrefi yn llawn tai haf ac ail gartrefi ac mae 'na bobl sydd wedi eu geni a'u magu yn y pentref yn methu fforddio prynu tŷ," meddai.

"Wrth gwrs bod 'na gydymdeimlad gydag unrhyw ymgyrch sy'n dweud bod yn rhaid i hyn gael ei reoli - roedd 'na gydymdeimlad distaw, nid efo'r llosgi ond gydag amcanion yr ymgyrch oedd eisiau rheoli'r sefyllfa.

"Ond dyw hynna ddim yn esgus dros beidio dal y troseddwyr."

Disgrifiad o’r llun,

Dafydd Iwan yn 1980 ac yn 2017

Mae Jeff Thomas yn gyn-bennaeth CID Heddlu Dyfed Powys ac mae'n credu bod mwy nag un rheswm pam nad oedd mwy wedi cael eu dal.

Dywedodd: "Doedd dim technoleg yr adeg hynny, ddim fel mae heddi'. Ond gogledd Cymru oedd yn arwain - yr unig rôl gan heddluoedd eraill oedd ymchwilio i bob mater fel roedd e'n digwydd a phasio unrhyw wybodaeth 'mlaen i ogledd Cymru.

"Ond y gwir yw dwi ddim yn cofio unrhyw wybodaeth yn cael ei basio 'mlaen oherwydd o'n ni ddim yn ffeindio dim byd mas - p'run ai oherwydd cydymdeimlad oedd hynny dwi ddim yn gwybod."

Disgrifiad o’r llun,

Jeff Thomas, Cyn-bennaeth CID Heddlu Dyfed Powys, yn 1980 ac yn 2017

BR a'r IRA

Mae'r dogfennau hefyd yn datgelu rhywfaint am achos llai adnabyddus - y rhai oedd yn galw eu hunain yn Fighters for Wales Movement.

Roedd y mudiad yma, o edrych ar lythyr wedi'i ddyddio ym mis Medi 1980, yn awyddus i wella'r rheilffyrdd yng Nghymru.

I wneud hynny, roedden nhw'n bygwth difrodi offer British Rail ac hyd yn oed chwythu pontydd i fyny. Roedden nhw hefyd yn honni fod ganddyn nhw gefnogaeth yr IRA.

Ond mae'r ffaith i'r llythyr gynnwys yr ôl-nodyn "CYMRA AM BYTH" - fel y mae'r ohebiaeth sydd i ddilyn yn cyfeirio ato hefyd - yn awgrymu mai nid Cymry Cymraeg oedd rhain.

Roedd hefyd esiamplau o ymosodiadau ar swyddfeydd gwerthu tai yn Llundain ac yn rhannau eraill o Loegr, yn ogystal ag ar rai aelodau seneddol oedd yn cael eu gweld yn wrth-Gymreig.

Disgrifiad,

Doedd fawr o gefnogaeth i ymgyrch Meibion Glyndŵr yn Llanberis

Effeithiau gwleidyddol

Mae sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg hefyd yn cael ei drafod yn y dogfennau, gydag un llythyr yn sôn am awydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Walker, i fwrw 'mlaen â'r syniad.

Mae'r llythyr yn honni fod y llywodraeth Geidwadol ar y pryd wedi gwneud llawer i hybu'r Gymraeg yn yr wythdegau - gan gynnwys sefydlu S4C - ond fod angen gwneud mwy:

"Good progress has been made with Government assistance in nurturing the Welsh language. The decline in the number of people able to speak Welsh seems to have been halted...

"Nevertheless the future of the language remains a strong political issue and there are those - particularly the young members of the Welsh Language Society, who are prepared to indulge in non violent law breaking activities to further the cause of the language.

"The current arson campaign is a different matter and the work of unknown extremists. Quite recently there has been a marked reluctance on the part of some people to condemn those responsible. The danger now is that this kind of sympathy will spread unless it is seen that the Govt is doing everything it can to preserve the language."

Disgrifiad o’r llun,

Ffred Ffransis yn 1980 ac yn 2017

Mae'r cynnwys yn profi - yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg - mai gweithred wleidyddol oedd sefydlu Bwrdd yr Iaith yn hytrach nag awydd wirioneddol i hyrwyddo'r Gymraeg.

Dywedodd: "Yr hyn mae'r dogfennau yn ei ddadlennu unwaith ac am byth - a dyw'r sefyllfa ddim wedi newid erbyn heddiw - mai nid allan o haelioni eu calonnau mae'r Torïaid wedi gwneud rhywbeth dros y Gymraeg ond am resymau gwleidyddol... [Roedden] nhw'n pryderu - oni bai eu bod nhw'n cael eu gweld yn sefydlu Bwrdd yr Iaith neu rwbath tebyg - y byddai'r pwysau yng Nghymru yn cynyddu."

Ond amddiffyn record Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn yr wythdegau wnaiff Keith Best gan ddadlau ei fod yn falch bod y Gymraeg ar gynnydd.

"Pan ddois i mewn i wleidyddiaeth ym 1979 roedd y bygythiad i ddyfodol yr iaith yn un gwirioneddol - a phryder fod y Gymraeg yn marw," meddai.

"Dros y cyfnod i ddilyn does dim byd ond ewyllys wedi bod tuag at yr iaith - yn cynnwys deddf iaith a sefydlu Bwrdd yr Iaith, er enghraifft. Mae'r sefyllfa wedi newid yn gyfangwbl... o iaith oedd o dan fygythiad i iaith sydd rŵan yn ffynnu."

Disgrifiad,

Gohebwyr yn adrodd ar yr ymosodiadau

'Dal yn flin'

Saith mlynedd ar hugain ers ei arestio ac ar ôl darllen dogfennau'r Swyddfa Gartref mae Bryn Fôn yn grediniol mai'r gwasanaethau cudd oedd wrth wraidd ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr.

Fel Dafydd Iwan, a ddywedodd bod "y pethau mwyaf diddorol wedi cael eu dileu" o'r llythyron, mae Bryn Fôn hefyd yn teimlo bod llawer mwy o'r stori eto i'w dweud.

"Y darnau yma sy' wedi cael eu cuddio efo'r ink du ar ben bob dim - pam bod nhw, ar ôl yr holl amser, yn dal i guddio? Be' maen nhw'n guddio? Yr unig beth alla i weld maen nhw'n cuddio ydy ffaeleddau nhw'u hunan," meddai Bryn Fôn.

"Pan 'da chi'n gweld lefel y pethau oedd yn cael eu trafod - y Swyddfa Gartref, yr Ysgrifennydd Cartref, Ysgrifennydd Cymru ac un memo i rif 10 Downing Street, mae'n rhaid felly gen i fod y gwasanaethau cudd Prydeinig ynghlwm â'r peth... achos mi oeddan nhw yn colli tir yn Iwerddon a'r job yn dod i ben a dim byd arall i fynd iddo - yn ôl be' dwi 'di ddallt roeddan nhw'n chwilio am terrorist threat yn mainland Britain er mwyn cadw eu swyddi."

Disgrifiad o’r llun,

Keith Best yn 1980 ac yn 2017

Felly i ateb y cwestiwn gafodd ei ofyn ar y dechrau - pwy oedd Meibion Glyndŵr? - dydyn ni dal ddim callach, hyd yn oed ar ôl gweld y dogfennau. Os rhywbeth, mae'r dogfennau yma yn llwyddo i godi hyd yn oed mwy o gwestiynau.

Pam fod gymaint o'r cynnwys yn cael ei dduo? Oes gan yr awdurdodau rhywbeth i'w guddio? Pwy oedd aelodau'r mudiad anhysbys fu'n bygwth ffrwydro pontydd yn deilchion? Pwy oedd yn gyrru'r cardiau pen-blwydd i'r heddlu yn ddi-enw?

Dywedodd Bryn Fôn ei fod yn "dal yn flin" am y digwyddiad bron i dri degawd yn ddiweddarach.

"Mae o wedi effeithio arnom ni fel teulu," meddai. "Mae o wedi gadael ei farc arna i fel person. Dwi dal ynghlwm â Meibion Glyndŵr er mod i ddim byd i 'neud efo fo.

"Gath o effaith mawr ar Mam - doedd hi byth 'run peth. Mi yda chi'n sôn am gwpl - 'Nhad a Mam - oedd yn parchu'r heddlu, yr heddlu byth yn wrong ac mi gollon nhw eu parch at yr heddlu yn y cyfnod yna. Pan mae rhywun yn colli ffydd yn yr awdurdodau fel 'na mae'n sefyllfa drist iawn."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bryn Fôn yn parhau yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd Cymru hyd heddiw