Prifysgol y Drindod 'eisiau torri 10% o'i staff'
- Cyhoeddwyd
Mae swyddi dan fygythiad ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wrth iddyn nhw ofyn i staff ystyried diswyddiadau gwirfoddol.
Mae gan y brifysgol gampysau yng Nghaerfyrddin, Abertawe a Llambed.
Er nad oes manylion wedi'u rhyddhau am niferoedd, mae undeb Unsain yn honni bod y brifysgol yn gobeithio lleihau nifer eu staff tua 10%.
Daw ddiwrnod yn unig ar ôl i Brifysgol De Cymru gyhoeddi y bydd hyd at 139 o swyddi'n cael eu torri.
Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant tua 1,500 aelod o staff ar hyn o bryd, gyda mwy na 10,000 o fyfyrwyr.
Maen nhw wedi ysgrifennu at bob aelod o staff yn gofyn a fydden nhw'n agored i ddiswyddo gwirfoddol.
'Costau uwch na'r cyfartaledd'
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: "Fel rhan o'i busnes arferol, mae'r brifysgol yn adolygu lefelau staffio yn gyson, gydag ystyriaeth o weddill y sector.
"Mae costau staffio'r brifysgol yn uwch na'r cyfartaledd ar draws y sector ac felly mae adolygiad wedi'i wneud o lefelau staffio ar draws pob uned academaidd a phroffesiynol.
"Felly, mae'r brifysgol wedi lansio cynllun diswyddiadau gwirfoddol gyda'r nod o leihau costau lefelau staffio fel cyfran o drosiant, ac mae wedi cwrdd ag undebau i'w gwneud yn ymwybodol o'r sefyllfa."
Ychwanegodd y byddai'r broses yn debygol o barhau dros yr wythnosau nesaf.
'Newidiadau mawr'
Mae gwaith wedi dechrau y llynedd ar ddatblygiad £300m y brifysgol ym Mae Abertawe, a'r Drindod hefyd sydd y tu ôl i gynllun Yr Egin - cartref newydd S4C yng Nghaerfyrddin.
Dywedodd Hugh McDyer o Unsain: "Rydyn ni'n gwybod bod newidiadau mawr ar y ffordd i'r brifysgol, gyda safleoedd yn debygol o uno.
"Byddwn yn gweithio gyda nhw i ddod o hyd i arbedion os oes eu hangen, ond ni ddylai hynny fod ar draul staff rheng flaen.
"Mae'n hanfodol bod safon y dysgu a'r gefnogaeth i fyfyrwyr yn cael ei ddiogelu, ac rydyn ni eisiau i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i fod yn agored ac onest am raddfa'r her y mae'n ei wynebu a gweithio'n adeiladol gydag Unsain i leihau unrhyw effaith ar staff."
Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r sefyllfa, a dywedodd llefarydd bod gweinidogion yn disgwyl ymgynghoriad cyn unrhyw benderfyniad.