Profiad y Cymry wedi'r ymosodiad yn Arena Manceinion
- Cyhoeddwyd
Mae nifer o'r Cymry oedd ym Manceinion wedi bod yn trafod eu profiadau personol wedi ymosodiad yn Arena Manceinion nos Lun.
Mae 22 o bobl a phlant wedi marw a 59 wedi eu hanafu yn y ffrwydrad.
Dywedodd yr heddlu fod dyn 22 oed, sydd bellach wedi'i enwi fel Salman Abedi, wedi tanio dyfais ffrwydrol, a'i fod ymysg y meirw.
Mae'r digwyddiad yn cael ei drin fel un terfysgol, ac mae dyn 23 oed wedi ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
'Clec mawr'
Yn dilyn cadeirio cyfarfod o bwyllgor brys Cobra fore dydd Mawrth, dywedodd Theresa May mai hwn oedd yr ymosodiad gwaethaf i daro gogledd Lloegr erioed.
Digwyddodd y ffrwydrad yng nghyntedd yr adeilad tua 22:30 ar ddiwedd perfformiad gan y gantores Americanaidd, Ariana Grande.
Un oedd yn y cyngerdd oedd Vicky Pickavance a'i merch 12 oed Sadie o Fangor.
"Roedd 'na glec mawr, bang mawr ond dim byd fyswn i yn poeni am. O'n i yn convinced un balŵn oedd wedi popio, bod y plant yn sgrechian achos bod y balŵns wedi popio," meddai ar raglen y Post Cyntaf.
Dywedodd ei bod wedi gweld plant yn rhedeg a mwg ymhob man, ond doedd hi ddim yn gwybod bod ffrwydrad wedi bod yn yr arena tan yn hwyrach.
"Beth sydd wedi cael fi ydy bod pobl wedi marw, mae 'na bobl wedi marw yn y stadiwm yna, plant, rhieni....Dwi'n wallgo'.
"Dwi isio sgrechian ar rywun a does 'na neb i sgrechian ar."
'Erchyll'
Mae wyth o ysbytai ym Manceinion yn trin y rhai sydd wedi cael eu hanafu, ac yn Llundain, mae swyddogion gwrth-derfysgaeth yn cydlynu â'r Swyddfa Gartref wrth iddyn nhw ymateb i'r digwyddiad.
Mae pobl wedi bod yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i chwilio am unigolion sydd ar goll ac mae Heddlu Manceinion wedi cyhoeddi rhif ffôn arbennig ar gyfer unrhyw un sydd yn poeni am deulu neu ffrindiau allai fod yn yr ardal - 0161 856 9400.
Roedd Vanessa Brown o Fwcle yn y ddinas yn disgwyl am ei merch Emily a'i nai Benjamin i ddod allan o'r cyngerdd.
Dywedodd wrth raglen y Post Cyntaf: "Nes i ddechrau gweld plant yn rhedeg, a erbyn meddwl rwan mae'n debyg bod nhw'n rhedeg am eu bywydau, oherwydd bod nhw wedi clywed y bang.
"Eiliad wedyn o ni'n gweld Emily a Ben yn dod rownd y gongl - golwg erchyll ar wyneb Ben ac Emily yn torri ei chalon.
"Dyma fi'n agor y drws: 'Be sydd wedi digwydd?'
"Mae na bom, mae na bom, mae na bom!"
Fe geisiodd hi helpu merch oedd wedi brifo ei choes a dyna pryd wnaeth hi sylweddoli mawredd y digwyddiad.
"Nes i agor y car a dod a hi mewn i'r car a chlymu rhyw hen t-shirt oedd ganddon ni yn y bŵt rownd ei choes fel bod hi ddim yn gwaedu gormod.
"Ffonio ambiwlans a dyma pryd nes i sylweddoli bod o'n rhywbeth gwaeth. O ni methu mynd trwodd i'r ambiwlansys...
"Ac roedd na neb yn helpu'r hogan fach oedd yn cefn y car gyda fi. Nes i glywed plismon yn dweud, 'She's not life threatening' a gwnaethon nhw jyst pasio.
"Nath hynna neud fi sylweddoli wedyn ma rhaid bod na rai i fyny grisiau oedd yn life threatening."
Mae Sara Vaughan Perry yn byw ym Manceinion ers pum mlynedd. Mae'n dweud y bydd pobl y ddinas yn "tynnu at ei gilydd".
"Mae 'na gymaint o ffrindiau a ballu, da ni wedi bod mewn cysylltiad bore ma. Mae pawb wedi dychryn ond da ni gyd yn dweud mae'n rhaid i ni gyd fod yn gryf."
Yn ôl Martin Morgan o ganolfan glustfeinio'r BBC doedd ymosodiad fel hyn ddim yn annisgwyl.
"Ar gyfrifon cefnogwyr y Wladwriaeth Islamaidd mae pobl wedi bod yn dathlu mae'n ddrwg gen i ddweud - dyw hyn ddim yn sôn bod nhw'n cymryd cyfrifoldeb.
"Mae'r heddlu a'r gwasanaethau diogelwch wedi bod yn ymchwilio ac arestio pobl yn aml iawn yn y blynyddoedd diweddar. Mae safon diogelwch, rhybudd diogelwch yn uchel iawn.
"R'on nhw'n disgwyl rhyw fath o ymosodiad."
'Panig mawr'
Dywedodd Owain Myfyr o Ddolgellau wrth raglen Taro'r Post ei fod wedi mynychu'r cyngerdd nos Lun gyda'i bartner, a'i merch 12 oed.
"Roedden ni'n gwneud ein ffordd allan i ben y rhes, a dyma 'na glec ofnadwy," meddai.
"Do'n i erioed 'di teimlo rhywbeth tebyg, a'r ffaith bod y llawr 'di crynu, roedd rhywun yn amau'r gwirionedd.
"O fewn ychydig eiliadau, roedden ni'n edrych i lawr ar bethau, mi ddaru 'na banig dorri allan am 'chydig, roedd mwyafrif y gynulleidfa yn blant a ffans yn eu harddegau. Roedd rhai oedd wedi mynd allan i wynebu hyn, ddaru nhw redeg yn ôl... a dyma 'na banig mawr."
Dywedodd ei fod wedi cael y tocynnau i ferch ei bartner fel anrheg pen-blwydd, a'i bod "wedi cael noson arbennig" nes y digwyddiadau ar y diwedd.
"Mae llawenydd yn gallu troi'n hunllef mor sydyn mewn gwirionedd. Y panig oedd y peth cyntaf wrth reswm... ond y flaenoriaeth oedd gwarchod y ferch rhag gweld dim byd, a rhag cael unrhyw niwed, a thrio peidio panicio," ychwanegodd.
"Mae rhywun yn gwerthfawrogi pa mor lwcus 'dan ni, ac mae rhywun yn meddwl am y trueiniaid sydd wedi colli annwyliaid."
Bydd gwylnos yn digwydd yn sgwar Albert yng nghanol y ddinas am 18:00 nos Fawrth ac mae'r ymgyrchu gwleidyddol ar gyfer yr etholiad cyffredinol wedi ei ohirio.
Mae'r arbenigwr diogelwch, Lee Doddridge wedi dweud wrth BBC Radio Wales y bydd yr heddlu hyd yn oed yn fwy gwyliadwrus ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd.
"Yr adeg gwan fydd ar ôl y digwyddiad, pan fydd yr orsaf drenau efallai yn llawn o bobl, pobl yn ciwio.
"Fe fydd pobl yn gadael gyda'i gilydd tra bod y digwyddiad yn dod i ben a dyna pryd y bydd angen bod yn ofalus."