Bywyd Del-frydol
- Cyhoeddwyd
Yn yr 1980au roedd hi'n un o actorion ifanc mwyaf adnabyddus S4C, yn y 1990au roedd hi'n chwarae rygbi dros Gymru ac yn y 2000au fe ymfudodd i Seland Newydd i ddechrau bywyd newydd.
Mae Delyth Morgan-Coghlan wastad wedi gwybod beth roedd hi eisiau ei gyflawni mewn bywyd meddai wrth Cymru Fyw.
Mae'r ferch o Ben-y-bont ar Ogwr oedd yn actio yn y ffilm Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig a'r gyfres Dinas yn byw bywyd "syml, hamddenol" ar ynys Waiheke ger Auckland gyda'i gŵr Kasey a'i merch Seren ers 10 mlynedd.
Yno mae hi wedi cyflawni uchelgais arall, sef rhedeg busnes sy'n trefnu gweithgareddau a gweithdai adeiladu tîm i gwmnïau ac, wrth gwrs, bydd hi'n cadw llygaid barcud ar ail brawf Y Llewod yn erbyn Seland Newydd fore Sadwrn 1 Gorffennaf
Apêl y bywyd syml
Mae bywyd ar Waiheke yn hamddenol iawn, iawn.
Mae'n ynys lle mae pobl yn dod ar wyliau. Mae gyda ni tua 100 o draethau, 30 o winllannoedd a thri neu bedwar o bentrefi. Mae'r môr a'r awyr agored yn bwysig iawn i fywyd ar Waiheke a does dim canolfannau siopa mawr a dim llefydd bwyd cyflym yma.
Mae hynny'n sbeshial, yn enwedig o ran cael magu plentyn ar ynys lle does dim o'r rheina o gwmpas.
Bywyd syml yw e a dyna sy'n apelio aton ni fel teulu, gallu peidio â phoeni gymaint am gymhlethdodau bywyd jyst mwynhau cymdeithas fach.
Mae ngŵr i'n bysgotwr felly ry'n ni'n rhannu pysgod gyda phobl eraill bob wythnos ac maen nhw'n gallu rhannu beth sydd gyda nhw gyda ni, a mae hynny'n arbennig o hyfryd.
Y gwahaniaeth mwyaf lle ni'n byw yw'r tywydd. Mae'n semi tropical yma felly yn yr haf mae hi'n sych ac yn dwym am gyfnod cymharol hir. 'Ni byth yn gorfod gweddïo am dywydd da yn yr haf - ni jyst yn cael tywydd da!
Roeddwn i wedi bod yn ymweld â Seland Newydd am flynyddoedd cyn i fi gwrdd â Kasey oherwydd fy nghysylltiad gyda ffrindiau yn Auckland - ges i lot o gyfle i deithio'r byd fel rhan o ngwaith fel cynhyrchydd a chyflwynydd ar S4C.
Fe wnes i ddigwydd cael cynnig gwaith gyda teledu Sky yn Auckland ar un trip. Roedd yn gyfle arbennig i fi gael byw mewn gwlad wahanol a gweld sut roedd y byd cyfryngol yn gweithio mewn gwlad arall.
Yn ystod yr amser yna wnes i gwrdd â Kasey ac mae'r gweddill yn hanes!
Rygbi, actio a byd busnes
Dwi'n meddwl fy mod i'n gwybod yn fy nghalon o oedran ifanc mod i'n mynd i chwarae rygbi dros Gymru, hyd yn oed cyn bod timau menywod yn bodoli.
Dwi'n cofio siarad gyda phobl o oedran ifanc iawn a sôn am y ffaith mod i eisiau chwarae rygbi dros Gymru.
Dyna beth o'n i moyn ei wneud.
Beth sy'n rhyfeddod ydy na wnes i ddechre chwarae dros Gymru nes o'n i'n 24 - a dyna'r flwyddyn nes i ddechrau chwarae rygbi.
Weithiau mae na rai pethau mewn bywyd sydd i fod ac oni'n gwybod yn fy nghalon mai dyna beth o'n i fod i wneud.
Doedd rygbi ddim yn bodoli i ferched pan oni'n tyfu lan, doedd dim cyfle i chwarae pan oni'n ifanc ond mi ddaeth na gyfle a fe wnaeth hynna drawsnewid fy myd i mewn ffordd.
Yn yr un ffordd o'n i'n gwybod o oedran gymharol ifanc mod i'n mynd i fod yn actores.
Roedd 'na nifer o bethau ro'n i'n gwybod mod i eisiau eu cyflawni: roedd chwarae rygbi yn un ohonyn nhw, roedd bod yn actores yn un ohonyn nhw ac roedd rhedeg busnes yn un ohonyn nhw.
Felly os oes unrhyw un yn penderfynu eu bod nhw eisiau gwneud rhywbeth mewn bywyd mi wnawn nhw lwyddo i wneud y peth yna. Dyna nghred i ta beth.
Mae'n fwy na jyst bod eisiau gwneud rhywbeth, mae'n benderfyniad mwy dwfn na hynny. Mae'n rhywbeth sy'n rhan annatod o gymeriad rhywun.
Dwi'n meddwl mai dyna un o'r rhesymau roedd hi mor hawdd imi ddod i Seland Newydd. Ro'n i wrth fy modd gyda'r agwedd tuag at yr awyr agored, chwaraeon a chadw'n heini sy'n rhan annatod o'r gymdeithas yn Seland Newydd.
Mae pawb yn gwneud rhywbeth tu fas yn Seland Newydd a 'dyw e ddim yn angyffredin i fod yn heini ac yn ffit - boed yn rhedeg, cerdded, canŵio neu ddringo - mae pawb yn gwneud rhywbeth.
Mae'n gyffredin i weld rhywun yn mynd mas i gerdded neu redeg cyn ei bod hi wedi goleuo - maen nhw mas gyda'u head torches cyn bod nhw'n gorfod mynd i'r gwaith.
Dwi'n teimlo'n gartrefol iawn yma, dwi'n teimlo mai fan hyn dwi fod a dwi'n mwynhau bywyd yma.
Mae'n anodd iawn dychmygu rhoi'r math yma o fywyd lan achos mae'n tico'r bocsys i gyd ifi - mae'n brydferth, syml ac yn agos iawn at Auckland, dinas fwyaf Seland Newydd. Dwi hefyd yn cael fy ysbrydoli gan lwyddiannau pobl sy'n cystadlu yn rhyngwladol. Mae'n hawdd i fod yn hapus yma.
Gallwch weld cyfweliad Delyth ar Alfie: How Do You Beat the All Blacks?, BBC One Wales ar yr iplayer.
Gallwch wrando ar Ail Brawf y Llewod v Seland Newydd ar BBC Radio Cymru, 08:20 Sadwrn, 1 Gorffennaf.
Dilynwch y prif ddigwyddiadau ar lif byw Cymru Fyw o 08:00