Lle oeddwn i: Hywel Gwynfryn a Y Dyn 'Nath Ddwyn y 'Dolig
- Cyhoeddwyd
Mae Hywel Gwynfryn wedi sgrifennu sioeau a chaneuon niferus dros y blynyddoedd. Mae ei ffilm, 'Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig' a ysgrifennodd gyda Caryl Parry Jones, yn cael ei hystyried ymhlith y ffilmiau Cymraeg gorau erioed, ond ble'n union oedd e pan gafodd y syniad am y cymeriad Mordecai a'r ffilm?
Bu Hywel Gwynfryn yn ymweld â Hen Lyfrgell y brifddinas, sydd bellach yn Ganolfan Gymraeg Caerdydd, ac fel rhan o gyfres 'Lle oeddwn i' Cymru Fyw, mae'n hel atgofion am sgwennu yno:
Fe ddaeth atgofion lu yn ôl wrth i mi ddringo'r grisiau cerrig i lawr ucha'r Hen Lyfrgell - Llyfrgell Canolog Caerdydd yn ddiweddar.
Yma y byddwn i'n dod yn fyfyriwr drama ifanc brwdfrydig nôl yn 60au'r ganrif ddwetha' i ysgrifennu traethodau hynod o anwybodus am hanes y theatr gynnar yng ngwlad Groeg, ac i ddysgu monologau gan Shakespeare, yn y dwys ddistawrwydd.
Yn y Llyfrgell yr es i ati ym 1975 i ysgrifennu geiriau i opera roc yr oedd Endaf [Emlyn] a finnau yn ei sgwennu ar y pryd - 'Melltith ar y Nyth'. Stori Branwen, Matholwch, Bendigeidfran ac Efnisien - gyda Dewi Pws, Robin Gruffydd, Dafydd Hywel a Gillian Elisa yn y prif rannau.
Rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach fe gerddodd Mordecai i mewn drwy ddrysau'r sefydliad hynafol a sibrwd yn fy nglust:
Mae'r byd ma'n llawn o ddynion drwg,Ond neb mor ddrwg â fi. Dwi'n ymhyfrydu yn y ffaith. Dwi'n waeth na'r KGB……
ac yn y blaen.
Fo fel y cofiwch chi efallai, oedd 'Y Dyn 'na'th ddwyn y Dolig'. Caryl Parry Jones sgwenodd y ffilm efo mi a chyfansoddi'r gerddoriaeth. Ac er fy mod i wedi treulio dipyn o amser yng nghegin Caryl yn ceisio sgwennu deialog, ond yn gwastraffu lot fawr o amser yn chwerthin, o leia' roedd tawelwch y llyfrgell yn le delfrydol i gyfarfod yr Awen, fyddai'n galw heibio o bryd i'w gilydd - ond ddim yn ddigon amal.
Bellach, mae'r byrddau hir o bren derw trwm, y linoleum treuliedig gwyrdd tywyll ar y llawr a'r silffoedd oedd yn sigo dan bwysau'r llyfrau cyfeiriadol wedi hen fynd. Mae'r hen lyfrgell erbyn hyn yn le i gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg, uwchben paned o de neu goffi, neu efo cyllell a fforc yn eich llaw, a'r cyfan yn cael ei baratoi gan yr enwog Paj (gynt o dŷ bwyta 'Le Gallois') a'i weini gan Iwan, un o Gowbois Rhos Botwnnog.
Lle i enaid gael llonydd i hel atgofion am Matholwch a Mordecai, a cheisio creu mwy o atgofion ar gyfer y dyfodol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2015