Ymchwilio i ddamwain awyren laddodd un ger Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymchwiliad i ddamwain awyren angheuol ym Maes Awyr Caernarfon yn parhau ddydd Iau.
Bu farw peilot yr awyren fechan wedi'r digwyddiad tua 18:30 nos Fercher.
Fe darodd yr awyren y llain lanio ar y safle ger Dinas Dinlle cyn iddi fynd ar dân.
Daeth cadarnhad nos Fercher bod y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr wedi gyrru tîm i'r ardal i ymchwilio.
Dywedodd un llygad-dyst, Mark Hancock, bod yr awyren yn glanio'n "llawer rhy sydyn".
"Y peth cyntaf wnes i sylwi oedd doedd gan yr awyren ddim offer glanio, doedd ei holwynion ddim lawr", meddai.
"Roedd yn dod lawr yn llawer rhy sydyn ac fe wnaeth gwaelod yr awyren rhyw fath o belly flop ar y llain lanio.
"Aeth ar dân cyn bowndio nôl fyny i'r awyr a phan darodd y tir eto, cydiodd y fflamau eto.
"Roedd fel pelen dân enfawr ac roedd mwg du ym mhobman."
Ynghyd â'r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr, mae Heddlu Gogledd Cymru hefyd yn cynnal ymchwiliad.
Pan ddigwyddodd y ddamwain roedd Maes Awyr Caernarfon ar gau. Mae'r maes awyr fel arfer ar agor rhwng 09:00-18:00 bob dydd.
Mae gan hofrenyddion Gwylwyr y Glannau ac Ambiwlans Awyr gytundeb sy'n eu galluogi i ddefnyddio'r maes awyr y tu allan i'r oriau yma fel bo'r galw.
Mae un o weithwyr y maes awyr wedi dweud wrth BBC Cymru nad oedden nhw'n disgwyl i awyren lanio ar ôl 18:00 nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Medi 2017